Main content
Pam bod Efa o ardd Eden wedi denu enillydd y Fedal Ryddiaith?
Gareth Evans-Jones o Ynys Môn oedd enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.
Mae'n "nofel hynod" sy'n "dechrau yn y dechreuad" gyda chymeriad Beiblaidd, Efa, meddai'r beirniaid.
"Mae'r ieithwedd yn llafar, bron yn blentynnaidd wrth i Efa ddechrau synhwyro gweld, arogli a phrofi'r byd mae'n byw ynddo.
"Mae'r arddull yn aeddfedu'n naturiol wrth iddi ddysgu am y byd o'i chwmpas gan adrodd stori dynoliaeth o enau'r ddynes gyntaf a hynny nes ein hoes ni heddiw, AI a'i holl heriau."





