Main content
Cerdd yr Wythnos - Hannah Sams-Jones (Y Ffoaduriaid)
Diwedd Tymor
Roedd e’ ar ei meddwl ar ddiwrnod fel heddi’, hyd yn oed;
pan na allai’r haul fod wedi codi’n uwch i’w chyfarch
a phan na allai’r awyr fod yn lasach
na’r môr yn ddisgleiriach
a goleuni’r dydd wedi lapio mor dynn amdani
fel na theimlai hi arlliw o’r tywyllwch.
Ar ôl heddi’, gwyddai y byddai’n dechrau colli gafael.
Dechreuodd baratoi,
fel y gwnâi bob blwyddyn
gan gasglu pob mefusen a mafonen o fewn cyrraedd;
llwytho darnau o’r haul
fesul bocs i’r rhewgell
a’u cadw’n rheng o jariau.
Aeth ati i dorri coed,
a rheini yn eu hanterth a’r paill yn glynu wrth ei dwylo,
yn y gobaith y byddent,
o’u llwytho i’r tân,
yn ddigon eleni.
Hannah Sams- Jones
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Cerdd yr Wythnos - Iestyn Tyne (Twtil)
Hyd: 00:25





