Dr Simon Brooks yn rhannu ei brofiad o driniaeth arloesol.
Trafod ei salwch a'r driniaeth ryfeddol mae'n ei dderbyn yn un o ysbytai Manceinion.
Dr Simon Brooks sydd yn sôn am ei salwch a'r driniaeth ryfeddol mae'n ei dderbyn yn un o ysbytai Manceinion.
Mae Dr Seimon Brooks yr ysgolhaig, awdur a hanesydd o Gymru a anwyd yn 1971, sy’n gweithio fel Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn arbenigo mewn meysydd fel hanes, theori wleidyddol, aml-ddiwylliannedd a pholisi cyhoeddus.
Mae wedi cyfrannu’n sylweddol at fywyd deallusol Cymru fel cyn-olygydd cylchgrawn Barn ac fel awdur llyfrau dylanwadol megis Pam na fu Cymru a Hanes Cymry.
Yn ogystal â’i waith academaidd, mae hefyd wedi gwasanaethu fel cynghorydd i Lywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg a pholisi cymunedol, gan ddylanwadu ar ddatblygu polisïau cyhoeddus yng Nghymru. Simon wnaeth hefyd sefydlu y cylchgrawn Tu Chwith.
Fe fydd yn cyhoeddi llyfr arall yn yr Hydref o'r enw Lloegr Gymraeg, ac mae'n trafod y llyfr yma gyda Beti George. "Mae'n bosib y bydd AI yn achub y Gymraeg" mae hefyd yn sôn am newid hinsawdd a'r heriau ddaw gyda hynny, ac yn trafod sut y gwnaeth y capeli Cymraeg achub yr iaith yn eu dydd.
Mae hefyd yn wynebu heriau gyda'i iechyd, ac yn trafod ei ddiagnosis o Myeloma a'r driniaeth ryfeddol mae e'n ei derbyn ym Manceinion, a'r gofal arbennig mae o wedi ac yn ei dderbyn yn Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd.
Mae'n hoff o gefnogi tîm pêl-droed Porthmadog, ac yn dad i 2 o blant.
Un o'r dewisiadau cerddorol yw Haf yn Llundain gan Treiglad Pherffaith, gan iddo gael ei eni yn Llundain ac mae'r gan yn sôn am fywyd yn Llundain yn yr 80au - ac mae'n falch o fod yn Gymro o'r brifddinas.
Mae'n un o Gymry Llundain, ac yn falch o'i hunaniaeth.
Fe ddaw'r clip yma o raglen Beti a'i Phobol gyda Simon.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Dr Simon Brooks
![]()
Sefydlu cylchgrawn Tu Chwith
Hyd: 02:21
Mwy o glipiau Beti a'i Phobol
![]()
Sefydlu cylchgrawn Tu Chwith
Hyd: 02:21
![]()
Gadael teulu Rownd a Rownd fel galar
Hyd: 02:33
![]()
Cymuned glos Deiniolen
Hyd: 02:10
![]()
Lili Mai Jones: O’r Cae Pêl-droed i’r Orsedd
Hyd: 01:40




