Gadael teulu Rownd a Rownd fel galar
Emyr Gibson sydd yn trafod ei gyfnod yn dilyn gadael y gyfres Rownd a Rownd ar ol 18 o flynyddoedd yn actio'r cymeriad Meical.
I'r actorion, Emyr Gibson (Meical) a Manon Elis (Michelle) roedd hi'n ddipyn o newid byd ar ôl chwarae rhannau'r gŵr a gwraig cythryblus ers 1999.
Emyr Gibson yw gwestai Beti a'i Phobol, mae'n actor a thenor, yn DJ ac yn Ymarferydd Creadigol o Ddeiniolen, Gwynedd. Yn ogystal â’i waith actio, mae’n perfformio fel canwr ledled Cymru ac wedi bod yn aelod o'r grŵp Trio ers 2013.
Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn dementia drwy ei waith mewn cartref gofal, lle mae’n defnyddio cerddoriaeth i gefnogi trigolion sy’n byw gyda’r cyflwr. Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau teledu, theatr a radio, gan gynnwys cyfraniadau i MônFM. Mae hefyd yn gwneud gin.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Emyr Gibson
![]()
Cymuned glos Deiniolen
Hyd: 02:10





