Main content

"Natho nhw ddeud ar y diwrnod fod gen i ganser, a'r PSA test off the scale..." - Gwyndaf Jones

Ddylai mwyafrif dynion ddim cael cynnig profion ar gyfer canser y prostad, yn ôl ymgynghorwyr gwyddonol. Mae pwyllgor sgrinio cenedlaethol y Deyrnas Unedig yn dweud bod angen canolbwyntio'r sgrinio ar ychydig filoedd o ddynion sydd ag amrywiolyn genetig peryglus, neu sydd â hanes teuluol o ganser. Yn ôl adolygiad gan y pwyllgor, am bob mil o ddynion fyddai'n cael eu sgrinio yn eu pumdegau, byddai dau fywyd yn cael eu hachub dros y pymtheg mlynedd nesa'. Ond byddai hefyd yn golygu bod ugain o ddynion yn cael gwybod bod ganddyn nhw ganser ond nad oedd angen triniaeth arnyn nhw o gwbl. Ond mae Gwyndaf Jones o Gaernarfon sy'n byw gyda chanser y prostad, yn galw am gynnig profion i ddynion.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

5 o funudau