Main content
Ann Tegwen Hughes yn rhannu hanes llythyrau ei thad yng nghyfraith Elwyn M.Hughes o'i gyfnod fel caplan yn yr Ail Ryfel Byd
Roedd Elwyn M. Hughes yn gaplan i gatrawd y North Irish Horse yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod y cyfnod hwnnw derbyniodd degau o lythyrau gan deuluoedd y milwyr hynny gollodd eu bywydau yn brwydro. O'r ymatebion, mae'n amlwg fod geiriau Elwyn wedi cynnig cysur i sawl teulu.
Bellach, mae ei ferch yng nghyfraith, Ann Tegwen Hughes eisiau gweld y llythyrau yma yn cyrraedd amgueddfa yn Belfast.





