Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Beti George yn holi Ioan Huws sydd yn byw yn Rotterdam. Beti George interviews Ioan Huws who lives in Rotterdam.

Mae Ioan Huws yn byw yn Rotterdam ers wyth mlynedd, lle mae’n gweithio fel rheolwr llwyfan gyda Cherddorfa Philharmonig Rotterdam. Trwy ei waith, mae wedi cael y cyfle i deithio’r byd ac i weithio ochr yn ochr â rhai o gerddorion gorau’r byd.

Roedd ei dad yn heddwas, a gan fod y teulu’n symud yn rheolaidd oherwydd y gwaith, treuliodd Ioan ei blentyndod mewn sawl rhan o Ogledd Cymru, gan gynnwys yr Wyddgrug, Bae Colwyn a Chaernarfon. Mae’r profiadau hynny wedi cyfrannu at ei ddealltwriaeth ddofn o wahanol gymunedau yng Nghymru a’r ffurfiau amrywiol ar fywyd Cymreig yno.

Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth - yn astudio drama.

Cyn newid cyfeiriad yn llwyr yn ei yrfa, roedd Ioan yn athro Cymraeg a Drama yn Ysgol Alun, yn yr Wyddgrug.

Dyddiad Rhyddhau:

56 o funudau

Ar y Radio

Sul 15 Tach 202618:00

Darllediadau

  • Sul 15 Tach 202618:00
  • Iau 19 Tach 202618:00

Archif Beti a'i Phobol

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad