Newyddion Drwg
Mae'r rhaglen hon yn son am
Hyd: 11:53

Dysga Monica (11) fod ei mam a'i thad yn cael ysgariad. Yn llawn dicter a gofid, mae hi'n dechrau colli ei thymer gyda'i ffrindiau ac yn camymddwyn yn y dosbarth. Mae ei ffrindiau'n pryderu amdani ac yn ceisio codi ei chalon, ond does dim byd yn gweithio.
Yn llawn pryder am eu ffrind, penderfyna Lara (12) ac Akira (12) fynd draw i dŷ Monica i weld os gallan nhw siarad â hi am ei theimladau. Diolch i'r drefn, mae Monica'n cael lleisio ei phryderon i'w ffrindiau a bwrw ei gofidiau. Ar ôl siarad â'i rhieni eto, mae Monica'n dal i deimlo'n anhapus ond yn dechrau
dod i delerau â'r hyn sy'n digwydd i'w theulu. Awgryma Lara y dylai'r criw fynd i'r ffair, lle gallan nhw fynd ar y car sglefrio (roller coaster) er mwyn i Monica gael rhyddhau ychydig o'i dicter a'i theimladau ymosodol drwy sgrechian mor uchel â phosibl. Mae'n syniad rhagorol ac yn donig perffaith i Monica.
Pwnc: ABCh
Testun: Perthnasau
Geiriau allweddol: Tri Chwestiwn i Lara, ysgariad, gwahanu, rhieni, hollt, teulu, teimladau, dicter, ymddygiad, poen.
Syniadau ar gyfer y dosbarth
Gellir defnyddio'r stori hon i drafod perthnasau o fewn y teulu ac archwilio beth ydy 'uned deuluol' - a ydy'r fath beth yn bodoli? A oes diffiniad cyffredinol ar ei chyfer neu a ydy'r uned deuluol yn bodoli ar sawl ffurf? Dylai dysgu am berthnasau helpu'r dysgwyr i ddeall pwysigrwydd cael amgylchedd cadarn, diogel a chariadus mewn bywyd teuluol.
Mae'n ofynnol i ysgolion addysgu plant am natur priodas a'i phwysigrwydd i fywyd teuluol. Fodd bynnag, bydd y dysgwyr yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd teuluol ac mae'n bwysig cydnabod fod perthnasau cariadus, cadarn, ymroddedig a chefnogol i'w gilydd yn bodoli y tu allan i briodas.
Gall y stori hon hefyd fod yn sbardun i drafodaeth am deimladau - sut i rannu teimladau a gyda phwy i'w rhannu.
Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru
Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy’n digwydd i’w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi’r dysgwyr hefyd i archwilio’u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.
Ysgolion Cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• werthfawrogi teulu a ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i’w gilydd
• teimlo’n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• rheoli gwahanol emosiynau a datblygu strategaethau ar gyfer datrys gwrthdaro
a deall:
• y manteision o gael teulu a ffrindiau, a’r problemau sy’n gallu codi
• sefyllfaoedd sy’n esgor ar wrthdaro
• ystod eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill
Blwyddyn 5
Gwrando
• Gwrando’n astud ar gyflwyniadau gan ddefnyddio technegau i gofio’r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i’r cynnwys a safbwyntiau’r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni’r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.
Blwyddyn 6
Gwrando
• Gwrando’n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy’n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu’n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau’r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.
Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:
• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• datblygu a defnyddio ystod o strategaethau i reoli dicter a datrys gwrthdaro
a deall:
• rôl priodas a phwysigrwydd perthnasoedd teulu sefydlog
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill
Blwyddyn 7
Gwrando
• Ymateb yn bwyllog i syniadau eraill, gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi’r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.
Blwyddyn 8
Gwrando
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu’n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.
Blwyddyn 9
Gwrando
• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.
