Hysbysiad Preifatrwydd : Cystadleuaeth Dyfalu'r Flwyddyn Radio Cymru 2
Hysbysiad Preifatrwydd Cystadleuaeth WhatsApp Radio Cymru 2

Mae eich ymddiriedaeth yn bwysig iawn i ni. Mae hynny’n golygu bod y BBC wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn fel eich bod yn ymwybodol o sut a pham rydyn ni'n defnyddio data personol o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod ac ar ôl eich perthynas â ni, yn unol â'r gyfraith diogelu data.
Pam rydyn ni’n gwneud hyn a sut allwch chi gymryd rhan?
Mae cynulleidfaoedd wrth galon popeth a wnawn yn y BBC. Rydym yn mynd ati i ymgysylltu â’n cynulleidfa ac yn gofyn iddi gymryd rhan a chyfrannu mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys drwy gystadlaethau WhatsApp.
Bydd gwybodaeth am sut i gymryd rhan yn cael ei hegluro ar yr awyr neu ar-lein, gan gynnwys y rheolau penodol sy’n berthnasol i’r gystadleuaeth WhatsApp. Fel arfer, gofynnir i chi gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth drwy WhatsApp, a bydd gweddill proses y gystadleuaeth yn digwydd dros y ffôn.
Os byddwch yn ymddangos ar yr awyr, gall hyn gynnwys sicrhau bod y rhaglen ar gael ar-lein a/neu ar alw, ac mae’n bosibl y caiff eich cyfraniad ei ddefnyddio eto mewn darllediad yn y dyfodol.
Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio eich ymddangosiad ar yr awyr (os yw’n berthnasol) at ddibenion hyrwyddo ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y BBC.
Pa ddata personol fydd y BBC yn ei gasglu a sut byddwn ni’n ei ddefnyddio?
Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu eich data personol at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth WhatsApp; cadw cofnod o’r enillwyr at ddibenion cydymffurfio ac archwilio; creu cynnwys darlledu; a darparu’r wobr i’r enillydd.
Pa ddata personol fydd y BBC yn ei gasglu?
Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol amdanoch chi:
- Enw
- Ardal leol
- Rhif ffôn cyswllt
Os ydych yn ddigon ffodus i ennill, byddwn hefyd yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost er mwyn i ni allu e-bostio eich gwobr atoch.
Pwy yw’r Rheolwr Data?
Y BBC yw “rheolwr data” eich data personol. Mae hyn yn golygu bod y BBC yn penderfynu ar gyfer beth y defnyddir eich data personol, a'r ffyrdd y caiff ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, bydd eich data personol yn cael ei gasglu a'i brosesu at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn unig. Fel y rheolwr data, mae gan y BBC gyfrifoldeb i gydymffurfio a dangos cydymffurfiaeth â'r gyfraith diogelu data.
Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol
Y sail gyfreithlon y mae'r BBC yn prosesu'ch data personol arni yw perfformio ei rôl gyhoeddus. Rôl y BBC yw gweithredu er budd y cyhoedd ac i wasanaethu ei holl gynulleidfaoedd gyda chynnwys sy'n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.
Mae gennym hefyd “rwymedigaeth gyfreithiol” i gadw data personol enillwyr er mwyn i ni allu profi bod y gystadleuaeth yn deg.
Rhannu eich data personol
Mae’r BBC yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Dim ond ar ran y BBC y mae'r partneriaid hyn yn defnyddio'ch data personol ac nid yn annibynnol ar y BBC. Rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti i brosesu negeseuon Whatsapp.
Os byddwch yn dewis cysylltu â ni drwy WhatsApp, bydd eich defnydd o WhatsApp hefyd yn ddarostyngedig i delerau a pholisïau preifatrwydd WhatsApp ei hun. Gall WhatsApp brosesu eich data yn annibynnol ar y BBC.
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti lle mae’n ofynnol neu y caniateir i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Cadw eich data personol
Bydd data personol sydd wedi'i storio ar system WhatsApp yn cael ei gadw am chwe (6) mis.
Bydd data personol arall gan ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael ei gadw am 30 diwrnod ar ôl i bob cystadleuaeth gau.
Byddwn yn cadw cofnodion o'r enillwyr a'r rhai sy'n ail am ddwy (2) flynedd at ddibenion archwilio a chydymffurfio.
Os byddwch yn ymddangos mewn darllediad, bydd y rhaglen yn cael ei chadw a'i harchifo am gyfnod amhenodol gan y BBC.
Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU ac yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).
Eich hawliau a mwy o wybodaeth
Mae gennych hawliau o dan y gyfraith diogelu data:
- Gallwch ofyn am gopi o'r data personol y mae'r BBC yn ei storio amdanoch chi.
- Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch.
- Mae gennych hawl i ofyn i’r data personol a gasglwn amdanoch gael ei ddileu, serch hynny, mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a all roi’r hawl i’r BBC wrthod eich cais.
- Mewn amgylchiadau penodol, mae gennych hawl i gyfyngu prosesu eich data personol neu i wrthwynebu prosesu eich data personol.
- Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu sefydliad arall, mewn amgylchiadau penodol.
Gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau, neu os ydych am gael mwy o fanylion am eich hawliau ewch i Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC yn Eich Gwybodaeth a’ch Preifatrwydd - Defnyddio'r BBC.
Os oes gennych bryderon ynglŷn â’r ffordd y mae’r BBC wedi trin eich data personol, gallwch godi eich pryderon gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) https://ico.org.uk/.
Diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn
Byddwn yn adolygu'r hysbysiad preifatrwydd os bydd newidiadau sylweddol i'r ffordd rydyn ni’n defnyddio'ch data personol.