Rhybudd i gadw draw wrth i griwiau ymateb i dân ger Stryd Fawr Bangor

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn ymateb i dân gwair ger Stryd Fawr Bangor.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod pedwar criw wedi eu galw i'r digwyddiad, sydd yn ardal y cwrs golff.

Mae llefarydd wedi gofyn i'r cyhoedd gadw draw wrth i griwiau ddelio â'r digwyddiad.