Cymraes, 21, fu farw yn Awstralia yn 'berffaith ym mhob ffordd'

Roedd Annie Evans-Lewis yn dod o Lan-y-bri yn Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 21 oed, a fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd yn Awstralia, wedi cael ei disgrifio gan ei phartner fel "y ddynes harddaf" ac yn "berffaith ym mhob ffordd".
Yn wreiddiol o Lan-y-bri yn Sir Gaerfyrddin, roedd Annie Evans-Lewis yn byw yn East Pingelly, tua 100 milltir o Perth, gyda'i chariad, Cai James.
Cafodd anafiadau difrifol ar ôl i'r car yr oedd hi'n gyrru adael y ffordd a tharo coeden am tua 15:30 ar ddydd Sadwrn, 23 Mai.
Cafodd ei hedfan i ysbyty - lle bu Cai yn dal ei llaw tan iddi farw, meddai.
"Heb Annie mae e fel petai coes neu fraich ar goll gen i", meddai.
Dywedodd yr heddlu yn Awstralia eu bod yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad ac yn gofyn i dystion ddod yn eu blaenau.

Roedd Cai ac Annie wedi cwrdd ers pedair blynedd
Dymuniad Cai, 22 oedd "i'r ddau ohono' ni i fod yn hen ac yn gwylio ein hwyrion yn rhedeg o gwmpas".
"Hi oedd popeth i mi a nawr ei bod hi wedi mynd - dydw i ddim yn gwybod beth i wneud gyda fi fy hun."
Dywedodd mam Annie, Angharad Evans, mai ei merch oedd ei "holl fywyd", gan ychwanegu mai hi fydd "fy merch annwyl a phert am byth, fy nhywysoges anhygoel".

Bu'r ddau yn cynllunio am ddyfodol yn Awstralia
Fe wnaeth Cai ac Annie - oedd yn caru anifeiliaid a'r awyr agored - gwrdd ar fferm ffrind bedair blynedd yn ôl.
Aeth Annie at Cai yn Seland Newydd fis Medi llynedd, ac roedd yn "hapus i ymuno â mi ar gyfer y bennod nesaf yn ein bywydau".
Dywedodd Cai ei bod hi wrth ei bodd yn ei swydd gyda chwmni tyfu grawn a bod y cwpl wedi bod yn cynllunio am ddyfodol yn Awstralia, gan ei ddisgrifio fel "cyfle mawr".

Roedd gan Annie lewcemia pan oedd hi'n ifanc
Ddydd Sadwrn, roedd y cwpl wedi bod yn mwynhau diwrnod i ffwrdd - yn siopa ac wedi bod allan am ginio.
Esboniodd Cai ei fod, ar y ffordd adref, wedi gollwng Annie i nôl ei char o fferm gyfagos.
Yna roedd wedi mynd i weithdy er mwyn cael petrol i lif, ac wrth ddreifio ar ôl hynny gwelodd gar ar ochr y ffordd.
"Wrth agosáu, sylwais pwy oedd yno a newidiodd fy mywyd yn syth," meddai.
Cafodd Annie ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Brenhinol Perth, lle'r oedd "pob meddyg oedd ar gael yn yr ysbyty yn ei helpu".

Dywedodd Angharad Evans mai ei merch oedd ei "holl fywyd"
Eglurodd Cai fod cyfnither Annie, Emily Davies, wedi sefydlu tudalen i godi arian ar ran y teulu, i helpu gyda thalu'r costau o ddod â hi adref i Gymru a'r angladd.
Mae eisoes wedi casglu mwy na £32,000, gyda Cai yn dweud bod dros 1,000 o bobl o "bob cwr o'r byd" wedi rhoi pres.
'Y ferch fach fwyaf anhygoel, cryf a dewr'
Ychwanegodd Angharad Evans ei bod wedi syrthio mewn cariad "mor ddwfn" gyda'i merch, o'r tro cyntaf iddi ei dal.
"Ti oedd y ferch fach fwyaf anhygoel, cryf a dewr gyda'r hyn a wnes di ymladd trwyddo," meddai gan gyfeirio at y lewcemia yr oedd ganddi pan yn blentyn.
"Bydd yr hwyl a'r chwerthin yr oedden ni bob amser yn ei gael yn byw gyda fi am weddill fy oes.
"Y pethau gwirion a gwallgof y bydde' ni'n eu gwneud, roedden ni'n debycach i ffrindiau gorau. Fydda i fyth yr un peth hebddat yn fy mywyd Annie, fy angel."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.