'Menyw wedi camwerthu ceffyl a giciodd fy merch yn ei phen'

Mae Tasha Lee Hopkins, sy'n wynebu honiadau iddi gamwerthu ceffylau, yn aml yn rhoi lluniau ar Facebook ohoni ar geffylau
- Cyhoeddwyd
Pan roedd ei merch ar y llawr ddim yn symud ar ôl i geffyl ei chicio yn ei phen, dechreuodd Fiona boeni am y gwaethaf.
"Am eiliad, o'n i'n meddwl ei bod wedi marw," meddai. "O'n i'n meddwl ei bod wedi torri ei gwddf."
Fe brynodd Fiona geffyl i'w merch 13 oed oddi ar Facebook chwe wythnos ynghynt, oedd wedi cael ei ddisgrifio fel "breuddwyd" plentyn yn ei arddegau.
Ond yn ystod gwers marchogaeth fe neidiodd y ceffyl gan luchio merch Fiona i'r llawr, cyn ei chicio yn ei phen.
Mae'r ferch wedi gwella o'i hanafiadau erbyn hyn.
Mae Fiona yn un o bum menyw sydd wedi dweud wrth y BBC eu bod wedi prynu ceffylau gan y gwerthwr Tasha Lee Hopkins oedd naill ai ddim yn ddiogel neu oedd â chyflyrau oedd yn cyfyngu ar eu bywydau.
Mae Ms Hopkins wedi cael am sylw.
'Erchyll'
Bu rhaid rhuthro'r ferch yn ei harddegau i'r ysbyty mewn ambiwlans ar ôl iddi gael cyfergyd, ac fe dreuliodd tua phythefnos gartref yn gwella o'i hanafiadau yn dilyn y digwyddiad yn ne Cymru.
Roedd marc carn (hoof) y ceffyl i'w weld ar ochr ei helmed, meddai Fiona.
"O'n i'n meddwl... mae am gael ei pharlysu. Oedd e jest yn erchyll."
Gwyliodd Fiona'r foment "frawychus", ond fe gafodd sioc wedyn pan ddysgodd ei bod wedi prynu ceffyl oedd heb gael hyfforddiant digonol i'w farchogaeth.
"Ro'n i'n ymddiried yn Tasha," meddai.
"O'n i'n credu'r hyn roedd hi'n ei ddweud, ac fe werthodd geffyl i ni oedd ddim yn addas at y diben; doedd e ddim yn addas i blentyn ei farchogaeth.
"Dydw i ddim yn deall sut y gall rhywun sefyll yno a gwylio plentyn yn dringo ar gefn ceffyl gan wybod y gwir."

Mae lluniau y mae Tasha Lee Hopkins yn postio ar-lein yn awgrymu ei bod yn rhan o'r diwydiant ceffylau ers peth amser
Mae sefydliad blaenllaw ym maes lles ceffylau yn rhybuddio bod "gormod o achosion" ble mae ceffylau nad oes modd eu marchogaeth yn cael eu rhoi i ffwrdd neu eu gwerthu.
Dywedodd World Horse Welfare nad oes unrhyw safonau rheoleiddiol na gwirfoddol o fewn y diwydiant ar gyfer masnachu ceffylau, yn wahanol i anifeiliaid eraill fel cŵn.
Maen nhw'n dweud felly ei bod yn "hanfodol" bod gwerthwyr a darpar brynwyr yn ymchwil yn drylwyr.
Rydyn ni wedi newid enw Fiona er mwyn peidio ag adnabod ei merch. Fe brynodd hi geffyl 14 oed gan Tasha Lee Hopkins ym mis Rhagfyr 2024.
Cafodd y ceffyl ei hysbysebu ar grŵp Facebook 'CT Sports Horses', sy'n cael ei redeg gan Ms Hopkins ac unigolyn arall.
Maen nhw'n disgrifio'u hunain fel rhywle sy'n gwerthu "ceffylau chwaraeon diogel" ac sy'n cynnig gwarantiad (warranty) chwe mis.
"Aethon ni i weld y ceffyl a chwrdd â Tasha, ac roedd hi'n ymddangos yn hyfryd; roedd popeth yn teimlo'n ddilys," meddai Fiona.
"Dim ond ar ôl i'r ceffyl gyrraedd adref y dechreuodd popeth fynd o'i le."
Mwy o honiadau
Ar ôl y digwyddiad, fe ddaeth Fiona o hyd i berchennog gwreiddiol y ceffyl.
Dywedon nhw eu bod wedi bod yn berchen ar y ceffyl ers ei fod yn ddwy oed, ac yn y cyfnod hwnnw doedd neb wedi ei farchogaeth.
Mae Fiona'n honni nad oedd Ms Hopkins wedi datgelu'r wybodaeth yma pan brynodd hi'r anifail.
Fe ddysgodd y BBC nad dyma'r tro cyntaf i honiadau gael eu gwneud bod Ms Hopkins wedi camwerthu ceffylau o fewn y saith blynedd diwethaf.
Mae pum menyw wedi honni bod Ms Hopkins wedi camwerthu ceffylau iddyn nhw, tra bod dwy arall wedi dweud fod ganddyn nhw bryderon am ei gwaith.
Honnodd un fenyw ei bod wedi prynu ceffyl i'w farchogaeth gan Ms Hopkins, ond roedd ei gefn wedi torri, a chafodd hynny ddim ei ddatgelu.
Honnodd un arall fod Ms Hopkins wedi gwerthu ceffyl ar gyfer cystadlaethau neidio ceffylau - ond roedd gan y ceffyl arthritis mor ddifrifol, roedd milfeddyg yn y gorffennol wedi argymell y dylai'r ceffyl gael ei ddifa.

Fe wnaeth Kayleigh Sweet brynu Otto wedi marwolaeth ei cheffyl blaenorol, ond o fewn wythnosau fe wnaeth hi ddarganfod bod ganddo'r un cyflwr
Kayleigh Sweet brynodd y ceffyl hwnnw oedd ag arthritis, o'r enw Otto, am £6,250 ym mis Mawrth y llynedd.
Fe welodd hysbyseb amdano ar Facebook a dywedodd bod Ms Hopkins wedi dweud wrthi fod milfeddyg wedi cynnal profion ac wedi cymeradwyo'r ceffyl.
Roedd yn ymddangos fel "ceffyl pump oed arferol," meddai Kayleigh.
Ond o fewn wythnos o'i brynu sylweddolodd Kayleigh fod Otto yn cael trafferth yn cerdded.
Ar ôl edrych ar ei hanes meddygol, sylweddolodd yn gyflym nad oedd unrhyw hanes - "dim brechiadau, dim byd, ac roedd hwna'n anarferol iawn".
Aeth ati i geisio dod o hyd i berchennog gwreiddiol Otto, a ddywedodd wrthi fod y ceffyl wedi cael diagnosis o arthritis cronig yn ei goes pan yn dair oed.
Roedd y ceffyl wedi cael llawdriniaeth, ond nid oedd wedi gwella digon i rywun allu ei farchogaeth – ac roedd y milfeddyg wedi cynghori eu bod yn ei ddifa.
Yn hytrach na gwneud hynny, fe benderfynodd y perchennog ei roi i rywun a fyddai'n ei gadw fel anifail anwes ac nid fel ceffyl i'w farchogaeth.
Daeth y ceffyl i berchnogaeth Ms Hopkins yn y pendraw.
Fe gadarnhaodd archwiliad gan filfeddyg Kayleigh bod y diagnosis yn gywir, ond pan soniodd Kayleigh am hyn wrth Ms Hopkins, roedd hi'n gwrthod anrhydeddu'r gwarantiad chwe mis, meddai.
'Mae'n ofnadwy'
Roedd diagnosis arthritis Otto yn dorcalonnus i Kayleigh, oedd wedi gorfod cael ceffyl blaenorol wedi'i ddifa am yr un rheswm yn union.
"Roedd rhaid i fi ail-fyw y cyfan eto ac mae'n ofnadwy," meddai.
Fe wnaeth Kayleigh, o Fro Morgannwg, gymryd camau cyfreithiol. Yn gynharach fis yma fe wnaeth Ms Hopkins ymddangos yn Llys Sirol Abertawe.
Cafodd ei gorchymyn i dalu £11,000 i Kayleigh mewn iawndal a threuliau – arian a oedd i fod i gael ei dalu ym mis Hydref 2025.
Yn ystod yr achos cyfreithiol, cafodd Otto ei ddychwelyd i Ms Hopkins. Dyw Kayleigh ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd iddo ers hynny.

Fe brynodd Hayley Vaughan geffyl gan Tasha Lee Hopkins i'w merch Amber, oedd yn 16 oed ar y pryd, yn 2019
Un arall sydd wedi cael profiad tebyg yw Hayley Vaughan, 55 o Hwlffordd.
Prynodd geffyl o'r enw Bonnie gan Ms Hopkins am £1,400 ar ôl gweld hysbyseb ar Facebook yn 2019.
Dywedodd mai dim ond unwaith y llwyddodd ei merch Amber, oedd yn 16 oed ar y pryd, i reidio'r ceffyl cyn y bu'n rhaid iddyn nhw ffonio milfeddyg.
"Roedd hi'n edrych yn anghyfforddus iawn," felly penderfynon nhw ofyn am luniau pelydr-X ar ei chyfer, meddai Hayley.
Dangosodd y sganiau fod gan Bonnie anaf difrifol i'w chefn a chyflwr poenus yn ei hasgwrn cefn.
"Dywedodd y milfeddyg nad oedd unrhyw ffordd y gallai rhywun ei marchogaeth," ychwanegodd Hayley.
'Paid gadael i dy blentyn farchogaeth y ceffyl'
Ar ôl i'r ceffyl gicio gyda'i ddwy goes ôl yn y stabl - arwydd ei fod mewn poen - dywedodd fod y milfeddyg wedi dweud wrthi: "Paid byth â gadael i dy blentyn farchogaeth y ceffyl yna."
Ar ôl cael gwybod hyn fe gysylltodd Hayley â Ms Hopkins.
Dywedodd fod Ms Hopkins wedi dweud y byddai'n hapus i gymryd y ceffyl yn ôl, ond na fyddai'n rhoi ad-daliad.
"Doedd dim siawns 'mod i am roi'r ceffyl yna yn ôl iddi," meddai Hayley.
"Fe wnaeth hi ddyfeisio pob math o esgusodion gan roi'r bai ar y perchennog blaenorol. Byddwn i 'di hoffi pe bawn i 'di cael y dewrder i fynd â hi i'r llys."
Yn y pendraw fe lwyddodd Hayley i ddod o hyd i gartref ymddeol ar gyfer Bonnie, er mwyn sicrhau y gallai fyw gweddill ei bywyd yn yr amodau cywir.
Ond dywedodd iddi golli'r holl arian yr oedd hi wedi gwario ar y ceffyl.

Dim ond unwaith y cafodd Amber farchogaeth ei cheffyl newydd Bonnie cyn darganfod bod ganddi anaf
Mae'r BBC wedi cyflwyno'r honiadau yma i gyd i Ms Hopkins, ond dyw hi ddim wedi ymateb i'n cwestiynau.
Fe holon ni gwmni Meta, sy'n berchen ar Facebook, am y grŵp CT Sports Horses, ac maen nhw'n dweud eu bod "wedi cael gwared â'r cynnwys sydd wedi dod i'n sylw am dorri ein polisïau".
Mae'r bum menyw sy'n honni eu bod wedi cael eu camarwain wrth brynu ceffylau gan Ms Hopkins wedi dweud wrth y BBC eu bod wedi gweld yr anifeiliaid cyn eu prynu, ond heb gael archwiliad gan filfeddyg.
Mae World Horse Welfare yn argymell bod pob darpar brynwr yn gweld y ceffyl yn bersonol, yn cael y ceffyl wedi'i wirio gan eu milfeddyg eu hunain ac yn ei farchogaeth os yw hynny'n briodol.
'Gwnewch eich gwaith cartref'
"Byddwch yn wyliadwrus iawn, gwnewch eich gwaith cartref, ac edrychwch yn fanwl ar y pasbort," ychwanegodd Kayleigh Sweet.
"Mae'n rhaid i chi wneud eich ymchwil."
Mae hi'n galw am wneud pasbortau ceffylau yn ddigidol, gan fod rhai prynwyr wedi dweud bod y fformat papur yn gallu arwain at hepgor gwybodaeth allweddol am hanes meddygol y ceffyl.
"Dwi ddim yn meddwl y bydda i fyth yn cael tawelwch meddwl tan fod rhyw fath o fesurau diogelwch sylfaenol yn cael eu rhoi mewn lle ar gyfer anifeiliaid ac ar gyfer pobl sy'n mynd trwy brosesau fel hyn," meddai Kayleigh.
"Dylai pobl wybod y gwir o'r cychwyn cyntaf, a dylai pethau ddim cael eu cuddio."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Er bod pasbortau papur yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol, rydym yn cydnabod y cyfleoedd y gall technolegau digidol eu cynnig i gryfhau cofnodion adnabod ceffylau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2024

- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2025
