Rhybudd melyn am law trwm a stormydd mellt a tharanau

map o GymruFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r rhybudd i rym am 06:00 fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm a stormydd mellt a tharanau ar gyfer Cymru gyfan ddydd Iau.

Daw'r rhybudd - sy'n berthnasol i bob rhan o Gymru - i rym am 06:00 fore Iau a bydd yn dod i ben am 22:00.

Gallai'r tywydd garw arwain at lifogydd mewn mannau ac fe allai effeithio ar y ffyrdd a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

Yn ôl arbenigwyr, mae disgwyl i rhwng 20-30mm o law ddisgyn mewn tair awr, tra bod hyd at 50mm neu fwy yn bosib mewn rhai mannau yn y dwyrain.

Mae rhybudd melyn arall am stormydd mellt a tharanau wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhannau o'r wlad ddydd Mercher.

Daeth i rym am 03:00 fore Mercher a bydd yn dod i ben am 22:00.

Mae'n effeithio ar holl siroedd y gogledd yn ogystal â Sir Fynwy, Powys a Cheredigion yn y canolbarth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig