Trafodaethau URC a pherchnogion y Gweilch i brynu Caerdydd wedi dymchwel

Mi fydd Caerdydd yn chwarae'r Gweilch gartref ym Mharc yr Arfau nos Wener
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) yn dweud na fydd perchnogion y Gweilch nawr yn prynu rhanbarth Caerdydd gyda'r trafodaethau wedi dod i ben heb gytundeb.
Fe gadarnhaodd URC ym mis Ionawr 2026 eu bod yn cynnal trafodaethau â pherchnogion y Gweilch, Y11 Sport & Media, i drafod y posibilrwydd ohonyn nhw'n prynu Rygbi Caerdydd.
Erbyn hyn mae URC ac Y11 wedi "cytuno ar y cyd y byddai perchnogion y Gweilch yn tynnu yn ôl o'r broses" a hynny ar ôl "trafodaethau adeiladol", ac mi fydd Caerdydd yn parhau dan berchnogaeth URC.
Does dim manylion wedi cael eu rhannu ynglyn â pham ddaeth y trafodaethau i ben, gyda phrif weithredwr URC, Abi Tierney, ond yn cadarnhau y byddai Caerdydd yn parhau i fod dan berchnogaeth y corff llywodraethu am y tro.
"Y11 a gyflwynodd y cynnig gorau i brynu Caerdydd ond mae URC wedi dod i'r casgliad y byddai er budd gorau rygbi Cymru petai Caerdydd yn aros dan ein perchnogaeth am y tro," meddai Tierney.
"Rydym i gyd yn ddiolchgar iawn i Y11 am y proffesiynoldeb a'r ymrwymiad i rygbi Cymru y maen nhw wedi'i ddangos drwy gydol y broses hon."

Y ddealltwriaeth ydy mai'r Gweilch a'r Scarlets ydy'r ddau ranbarth o gêm y dynion sydd fwyaf pryderus o weld cynlluniau URC i dorri un o'r rhanbarthau proffesiynol.
Ond mae corff llywodraethu URC yn dweud bod modd i'r ddau ranbarth lofnodi eu Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA) diweddaraf - gyda Rygbi Caerdydd a'r Dreigiau eisoes wedi ei lofnodi.
Fe ddaw hyn bron i flwyddyn ar ôl i URC dynnu'r cynnig oddi ar y bwrdd.
Mae'r bwrdd llywodraethu'n dweud nad ydy eu bwriad hirdymor wedi newid a'u bod am dorri rhanbarth erbyn diwedd tymor 2027-28.
Dywedon nhw y byddan nhw'n amlinellu sut y byddan nhw'n gwneud hynny erbyn mis Mehefin 2026.
URC am orfod cynnal cyfarfod cyffredinol arbennig
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
URC yn trafod gyda pherchnogion y Gweilch am brynu Caerdydd
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
URC i dorri nifer y rhanbarthau rygbi o bedwar i dri erbyn 2027
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2025
Yn gynharach yn y mis bu'n rhaid i URC gynnal cyfarfod cyffredinol arbennig ac mi fydd y cadeirydd, Richard Collier-Keywood, yn gadael y rôl ar ddiwedd ei gytundeb yn yr haf.
Yn y cyfarfod fe ddywedodd Tierney ac URC eu bod am barhau â'r cynllun i leihau nifer y rhanbarthau i dri, gyda'r bwriad o gwblhau'r broses honno erbyn 2028.
"Does dim byd wedi newid," meddai. Mae angen newid i dri "am resymau ariannol a pherfformiad, ac er mwyn inni allu buddsoddi'n gywir yn ein llwybr i sicrhau dyfodol y gêm," meddai Tierney.
"Ond bydd y newid yma'n dod â sefydlogrwydd i'r system lle mae ei angen, a thawelwch a sicrwydd i'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
"Byddwn yn parhau i fuddsoddi'r £28m a glustnodwyd ar gyfer ein llwybrau dros y pum mlynedd nesaf, mewn ffordd raddol, a chadw ein huchelgeisiau ar gyfer twf masnachol yn y gêm broffesiynol," ychwanegodd.
Mae llefarydd ar ran Cyngor Abertawe'n dweud eu bod yn "croesawu'r newyddion" na fydd URC yn parhau â'u trafodaethau i werthu Rygbi Caerdydd i Y11.
"Ond, mae bwriad parhaus URC i dorri nifer y timau dynion proffesiynol i dri erbyn diwedd tymor 2027/28 yn parhau i fod yn bryder.
"Dyw URC ddim wedi egluro eto pam eu bod wedi newid eu safbwynt ar y cytundeb gyda thîm Y11, na pham eu bod bellach yn credu mai parhau i gadw Rygbi Caerdydd dan berchnogaeth URC fydd orau i'r gêm.
"Mae rygbi Cymru yn haeddu esboniadau clir a manwl am y penderfyniadau hyn a chynlluniau Undeb Rygbi Cymru ar gyfer y dyfodol."
Y11 a'r Scarlets yn bwriadu llofnodi'r PRA
Ar hyn o bryd mae'r Gweilch a'r Scarlets mewn hen gytundeb sy'n dod i ben yn 2028 tra bod y Dreigiau a Rygbi Caerdydd wedi llofnodi cytundeb PRA25 sy'n para tan 2030.
Daw'r anghytuno o ran llofnodi'r PRA ar ôl i URC gymryd rheolaeth dros Rygbi Caerdydd ym mis Ebrill 2025 ar ôl i'r rhanbarth fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Unwaith i URC gymryd rheolaeth dros dîm y brifddinas fe benderfynodd y Gweilch a'r Scarlets oedi cyn llofnodi'r cytundeb oherwydd pryderon ynghylch y goblygiadau.
Mynegodd y ddau bryderon na fyddai terfyn clir ar lefel y buddsoddiad y gallai URC ei roi i Gaerdydd, allai roi'r timau eraill o dan anfantais ariannol.
Roedd y Dreigiau'n rhannu'r pryderon hynny i ddechrau cyn newid eu meddwl a phenderfynu llofnodi'r cytundeb, ynghyd â Chaerdydd, ddechrau mis Mai.
Ond nawr bron i flwyddyn ar ôl i URC dynnu'r cynnig oddi ar y bwrdd mae'r corff llywodraethol yn dweud y gallai'r Gweilch a'r Scarlets lofnodi Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA) unwaith eto.
Erbyn hyn mae Y11 wedi penderfynu mai llofnodi'r PRA yw'r peth cywir ar gyfer dyfodol rhanbarth y Gweilch.
Ond dydy hi ddim yn glir os ydy hynny'n golygu eu bod yn ymrwymo'n hirdymor i berchen ar y Gweilch.
Mewn datganiad dywedodd Y11: "[Llofnodi] PRA25 ar ran y Gweilch a rygbi ar y lefel uchaf yn Abertawe, gan bartneru â Chyngor Abertawe a datblygu Sain Helen yw'r canlyniad cywir, wrth barhau i weithio gydag URC i barhau i adeiladu amgylchedd rygbi proffesiynol gwell.
"Rydym yn ddiolchgar i URC am fod mor agored a thryloyw drwy gydol y cyfnod trafod.
"Rydym yn diolch i gefnogwyr y Gweilch am eu hamynedd a'u dealltwriaeth, rydym yn gwybod ei fod wedi bod yn gyfnod pryderus."
Mae'r Scarlets hefyd yn dweud eu bod yn bwriadu llofnodi'r "cytundeb PRA25 ar ôl cwblhau diwydrwydd dyladwy - gan sicrhau mai dyma'r penderfyniad orau ar gyfer ein clwb a'r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli ledled Gorllewin Cymru".
"Mae'r diweddariad PRA25 yn dod â'r posibilrwydd o sefydlogrwydd ariannol, llywodraethu cliriach a chydweithio cryfach dros y ddwy flynedd nesaf."
Ychwanegon nhw hefyd eu bod am "ddiolch i gefnogwyr, staff, chwaraewyr, partneriaid a theulu ehangach y Scarlets am eu gwaith caled parhaus, eu hymrwymiad, eu teyrngarwch a'u cred".
Os bydd y Gweilch a'r Scarlets yn ymrwymo i'r PRA diweddaraf, bydd y pedwar rhanbarth ar yr un telerau am y pedair blynedd nesaf, gyda disgwyl i fil cyflogau pob tîm godi o £4.5m i £6.5m yn y blynyddoedd i ddod.
Mae'r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn awgrymu y bydd y status quo yn parhau am y ddau dymor nesaf o leiaf, cyn eu bod yn parhau â'u bwriad o golli rhanbarth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.