Arestio dau ar ôl i bedwar gael eu trywanu yn Ninbych-y-pysgod

Dinbych-y-pysgod Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Herald
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i orsaf drenau'r dref tua 21:50 nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 16 oed a dyn, 19, wedi cael eu harestio ar ôl i bedwar o bobl ifanc gael eu trywanu yn Ninbych-y-pysgod.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i orsaf drenau'r dref yn Sir Benfro tua 21:50 nos Fawrth, yn dilyn adroddiadau bod unigolyn yn cario cyllell.

Dyw anafiadau'r pedwar ddim yn rhai sy'n peryglu eu bywydau.

Cafodd dau eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol, ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd yr heddlu y bydd ganddyn nhw fwy o bresenoldeb yn yr ardal yn dilyn y digwyddiad, er mwyn rhoi tawelwch meddwl.

Heddlu Trafnidiaeth Prydain sy'n arwain yr ymholiadau, ac maen nhw'n apelio at unrhyw lygad dystion i gysylltu â nhw.

O ganlyniad i ymchwiliad yr heddlu yng ngorsaf Dinbych-y-pysgod cafodd trenau rhwng Doc Penfro a Chaerfyrddin eu canslo fore Mercher.

'Digwyddiad ynysig'

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jon Cooze o Heddlu Trafnidiaeth Prydain: "Nos Fercher cawsom ein galw i adroddiadau o ymladd yng ngorsaf drenau Dinbych-y-pysgod am 21:50 a oedd yn cynnwys grŵp o bobl ifanc.

"Cafodd pedwar o'r grŵp, rhwng 13 ac 17 oed o ardal Penfro, anafiadau o ganlyniad i drywanu yn ystod y digwyddiad ac fe'u cludwyd i'r ysbyty.

"Diolch byth, nid yw eu hanafiadau'n cael eu hystyried yn rhai sy'n bygwth nac yn newid eu bywyd ac maen nhw wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

"Gyda chydweithrediad Heddlu Dyfed-Powys a gyrhaeddodd y safle yn gyflym cafodd bachgen 16 oed a dyn 19 oed eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac maen nhw yn parhau yn y ddalfa.

"Rydym yn deall y pryder y mae digwyddiad o'r natur yma yn ei gael ar y gymuned leol ac, er ein bod yn credu ei fod yn ddigwyddiad ynysig, bydd mwy o swyddogion yn yr ardal i roi tawelwch meddwl.

"Rydym wedi lansio ymchwiliad ac yn cadw meddwl agored am gefndir yr hyn sydd wedi digwydd.

"Rwy'n gofyn i unrhyw un a welodd yr hyn a ddigwyddodd i gysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydain."