Cymru'n curo Albania yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol Cwpan y Byd

Merched CymruFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Cymru yn dathlu yn eu crysau melyn wedi i Ezmiralda Franja sgorio yn ei rhwyd ei hun

GanGwen Aeron
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Fe gurodd merched Cymru Albania brynhawn Gwener o un gôl i ddim yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol Cwpan y Byd.

Cafodd y gêm ei chwarae yn Stadiwm Loro Borici yn Shkoder ac roedd Cymru yn chwarae heb sawl chwaraewr oherwydd anafiadau – yn eu plith Ceri Holland, Rhiannon Roberts, Hayley Ladd, Olivia Clark a Ffion Morgan.

Ezmiralda Franja o dîm Albania sgoriodd unig gôl y gêm yn yr hanner cyntaf, gan daro'r bêl i'w rhwyd ei hun wedi 23 munud - gan roi Cymru ar y blaen.

Roedd disgwyl i Gymru wneud yn dda gan eu bod wedi trechu Albania ddwywaith yn barod yn y rowndiau rhagbrofol. Ond mae Albania wedi gwella'n ddiweddar – maen nhw wedi cael gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Y Weriniaeth Tsiec ac wedi ennill yn hawdd gartref yn erbyn Montenegro.

Albania a CymruFfynhonnell y llun, FAW

Roedd Cymru'n edrych yn fywiog ar y bêl yn ystod yr hanner cyntaf, gyda bylchau'n dechrau agor yng nghanol cae wrth i'r chwarae ddatblygu.

Ond roedd eu camgymeriadau eu hunain yn rhoi cyfle i Albania achosi problemau, gyda chyffyrddiadau gwan yn bygwth rhoi'r bêl i'r tîm cartref mewn mannau peryglus.

Y sgôr ar hanner amser oedd 1-0 i Gymru.

Roedd Albania yn edrych yn fwy bygythiol ar ôl yr egwyl, wrth i'r tîm cartref gynyddu'r pwysau a cheisio dod o hyd i gôl gyfartal.

Er mai Cymru oedd â'r rhan fwyaf o'r meddiant, Albania oedd yn creu cyfleoedd gorau'r gêm.

Roedd y tîm cartref yn edrych yn fwy bygythiol wrth ymosod, gan orfodi Cymru i weithio'n galed i gadw eu mantais.

Cafodd Albania gyfle i daro'n ôl pan groesodd Fortesa Berisha y bêl o'r dde a honno'n cyrraedd Doci, gan daro'r bêl i gefn y rhwyd. Ond roedd y faner camsefyll eisoes wedi'i chodi ac ni chafodd y gôl ei chaniatáu.

Er gwaethaf y pwysau hwyr gan y tîm cartref, llwyddodd Cymru i gadw eu mantais a sicrhau buddugoliaeth o 1-0

Bydd Cymru yn chwarae eto nos Fawrth yn yr ail gymal yn Llanelli.

Bydd yr enillwyr dros y ddau gymal yn wynebu naill ai Norwy neu Rwmania yn y rownd derfynol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.