Datgymalu a symud llong a fu'n sownd ar greigiau am fisoedd

Llun o'r awyr o'r llong ar y creigiauFfynhonnell y llun, Steve Bradley
Disgrifiad o’r llun,

Aeth y llong i drafferthion yn ystod tywydd garw gan ddiweddu ar y creigiau

GanCraig Duggan
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'r gwaith o symud llong 24 metr o hyd a aeth yn sownd ar greigiau oddi ar arfordir Sir Benfro wedi cael ei gwblhau dros y penwythnos.

Credir bod y 'Resolute' – llong gwarchod ar gyfer fferm wynt yn y môr ger Iwerddon – wedi drifftio i'r creigiau yng ngorllewin Cymru mewn tywydd garw fis Rhagfyr y llynedd.

Aeth yn sownd ger Abergwaun a bu'n rhaid achub pedwar aelod o'r criw.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod y llong wedi aros yn sownd ar y creigiau ac yn gyfrifoldeb i'w pherchennog.

Dechreuodd y contractwyr morol arbenigol Jevington Logistics, o Ddoc Penfro, ar y gwaith datgymalu ar 29 Mehefin.

Dywedodd y cwmni eu bod wedi defnyddio peiriant cloddio mawr gyda siswrn wedi'i atodi iddo i dorri'r llong yn ddarnau – roedd y peiriant yn arnofio ar fad enfawr 36 metr o hyd.

Yna, cafodd y darnau mawr o ddur eu torri i ddarnau llai gan staff yn defnyddio fflam-dorwyr nwy, cyn iddyn nhw gael eu hanfon at gwmni lleol i'w hailgylchu.

Steve BradleyFfynhonnell y llun, Steve Bradley
Disgrifiad o’r llun,

Steve Bradley oedd arweinydd y gwaith datgymalu

Amcangyfrifodd Steve Bradley – cyfarwyddwr gweithrediadau Jevington Logistics – y byddai cyfanswm o 110 tunnell o ddur yn cael ei adfer o'r "llong a oedd wedi'i hadeiladu yn gadarn".

Siaradodd Mr Bradley â BBC Cymru o gwch tynnu tra oedd y gwaith datgymalu yn parhau gerllaw.

"Ar hyn o bryd dwi ar bont y 'Forth Trojan',", meddai, "ac union o fy mlaen mae'r bad lle mae'r cloddiwr yn gweithio. Mae'n cnoi darnau oddi ar strwythur metel y llong."

Ychwanegodd y byddai'r cwmni, ar ôl i'r prif waith datgymalu glirio'r llong, yn chwilio'r creigiau ger y man lle'r aeth y 'Resolute' yn sownd, yn ogystal â gwely'r môr oddi tano, i sicrhau na chafodd dim byd ei adael ar ôl.

Peiriant mawr yn codi darnau o'r llongFfynhonnell y llun, Steve Bradley
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd y gwaith datgymalu a symud darnau tua diwedd mis Mehefin

Ym mis Chwefror, dywedodd Gwylwyr y Glannau fod y rhan fwyaf o danwydd y 'Resolute' wedi'i drosglwyddo i'r lan, ac nad oedd unrhyw adroddiadau o lygredd ar wahân i'r ychydig bach gafodd ei ganfod yn fuan wedi iddi daro'r creigiau.

Dywedodd Steve Bradley mai datgymalu'r llong oedd y ffordd orau o gael gwared arni, gan fod "tyllau eithaf mawr" yn ei gwaelod".

"Mae sianel 12 metr o led y gellir ei defnyddio i gyrraedd ochr dde'r llong. Felly wnaethon ni ddewis y bad ro'n ni am ei ddefnyddio – roedd angen iddo fod â spuds, sef coesau sy'n cael eu gyrru i wely'r môr i'w ddal yn ei le."

"Dw i'n credu mai dyma'r unig ffordd o wneud hyn – torri'r llong yn systematig yn bum rhan, eu codi ar y bad, ac yna datgymalu'r rhannau mawr hynny ar y bad ei hun."

Resolute ar y creigiau yn y cefndir, yn rhannol ar ei hochr a chaiaciwr ar y môr rhwng y llong a'r camera

Dywedodd Mr Bradley mai'r heriau mwyaf oedd cael y bad yn agos at y llong yn y lle cyntaf, a'r tywydd – bu'n rhaid iddyn nhw atal y gwaith am ddiwrnodau oherwydd bod tonnau'r môr yn rhy fawr.

Ychwanegodd fod yr Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau (MCA) wedi bod yn monitro'r mesurau atal llygredd.

"Fe wnaethom ni osod rhwystr amgylchynol o gwmpas y llongddrylliad, ac fe ddaeth yr MCA i'r safle a bodloni ar yr holl fesurau oedd ar waith ar gyfer arferion diogelu'r amgylchedd."

Dywedodd yr MCA nad oedd unrhyw adroddiadau o lygredd sylweddol, bod ymchwiliad troseddol wedi'i gynnal yn dilyn y digwyddiad ym mis Rhagfyr y llynedd a bod "troseddwr wedi cael rhybudd" gan yr MCA.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig