Angen i garchardai barhau gyda gwella darpariaeth y Gymraeg - Comisiynydd

Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
  • Cyhoeddwyd

Mae angen i garchardai "gryfhau trefniadau, gwella eglurder, a chynyddu hyder carcharorion" o ran darpariaeth y Gymraeg, meddai Comisiynydd y Gymraeg.

Mewn adroddiad newydd mae Efa Gruffudd Jones yn nodi argymhellion yn dilyn ymchwiliad i ystyried sut mae'r Gwasanaeth Carchardai yn gweithredu eu cynllun iaith Gymraeg.

Er bod cynnydd mewn mannau mae'r argymhellion yn cynnwys "cryfhau ymwybyddiaeth staff o'r iaith a'r diwylliant".

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai fod yr adroddiad yn dangos cynnydd ond eu bod am barhau i weithio gyda'r Comisiynydd "i wella'r ddarpariaeth iaith ar draws ein gwasanaethau yng Nghymru".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn rhannu ymrwymiad y Comisiynydd "i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg mewn carchardai yn gallu cyfathrebu yn eu hiaith eu hunain".

Gwaith ymchwil hefyd yn adleisio'r pryderon

Ymhlith yr argymhellion sy'n cael eu nodi gan y Comisiynydd mae:

  • cryfhau ymwybyddiaeth staff o'r iaith a'r diwylliant

  • datblygu system fwy effeithiol ar gyfer adnabod a chofnodi sgiliau iaith

  • a sicrhau fod carcharorion yn ymwybodol fod modd iddyn nhw gyfathrebu yn Gymraeg gyda'i gilydd ac â chysylltiadau allanol.

Ond mae'n pwysleisio hefyd fod yr adroddiad yn "nodi fod rhai datblygiadau cadarnhaol ar waith, a hynny yn dilyn ymweliad y Comisiynydd â charchar y Berwyn fis Tachwedd llynedd".

Dywedodd Efa Gruffudd Jones y daeth i'r amlwg yn dilyn ei hymweliad y llynedd "fod yna bryderon ynghylch gweithrediad cynllun iaith Gymraeg y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi".

"Roedd gwaith ymchwil gan arbenigwyr o Brifysgolion Caerdydd a Lerpwl hefyd yn adleisio'r pryderon hyn lle nad yw hawliau sylfaenol siaradwyr Cymraeg yn cael eu hystyried yn ddigonol yng ngharchardai Cymru."

Dywedodd mai dyma arweiniodd ati'n penderfynu cynnal yr ymchwiliad gan obeithio "sicrhau bod yr ymrwymiadau yn eu cynllun iaith yn cael eu gweithredu'n effeithiol ac yn arwain at welliannau sylweddol".

Aeth y Comisiynydd ymlaen i ddweud er bod pryderon wedi cael eu nodi o ran profiadau rhai carcharorion o ddefnyddio'r Gymraeg mae'n "rhaid pwysleisio fod y dystiolaeth sydd ar gael yn gyfyngedig o ran ei chwmpas a'i natur".

Felly "nid oedd modd dod i gasgliad pendant fod Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi wedi methu â chydymffurfio â'i gynllun iaith Gymraeg".

"Ond mae'r ymchwiliad wedi amlygu meysydd clir lle mae angen cryfhau trefniadau, gwella eglurder, a chynyddu hyder carcharorion Cymraeg eu hiaith yn ymarferoldeb y ddarpariaeth."

Dydy'r gwasanaeth carchardai ddim yn dod o dan Safonau'r Gymraeg - fel asiantaeth gweithredol o'r Goron - felly "mae fy mhwerau yn gyfyngedig" meddai Efa Gruffudd Jones.

"Dyma ddangos eto yr angen i ehangu cwmpas y Safonau i gynnwys mwy o sefydliadau a sectorau. Rwyf wedi gwneud y galwadau hyn yn gyson a byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithredu i'r cyfeiriad hwn."

'Awyddus i gryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg'

Yn ôl llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai "mae'r adroddiad yn dangos ein bod wedi gwneud cynnydd gan gynnwys drwy fforymau Cymraeg a mynediad at y cyfryngau Cymraeg.

"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth Cymraeg o ansawdd uchel."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "awyddus i gryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg drwy weithio i ymestyn Safonau'r Gymraeg i gyrff ac asiantaethau Llywodraeth y DU sy'n gweithredu yng Nghymru.

"Mae ein safbwynt yn glir – dylid datganoli cyfiawnder yn llawn i Gymru, yn yr un modd ag y mae wedi ei ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

"Dim ond trwy ddatganoli y gallwn ddarparu gwasanaethau mewn ffordd gydlynol ac effeithlon sy'n sicrhau'r canlyniadau sydd eu hangen a'u heisiau arnom."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.