Prifathrawon i gael eu 'hannog yn gryf' i gyfyngu defnydd plant o ffonau

Ffonau symudolFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fe fydd prifathrawon yn cael eu "hannog yn gryf" i gyfyngu ar ddefnydd o ffonau symudol gan ddisgyblion ysgol, meddai'r gweinidog addysg.

Fe wnaeth Anna Brychan addo gosod "disgwyliadau cenedlaethol clir ar sut mae ffonau symudol yn cael eu defnyddio mewn ysgolion".

Mae Plaid Cymru wedi dweud na fyddan nhw'n gwahardd ffonau o ysgolion, gan ddweud bod rhai plant eu hangen am resymau meddygol.

Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru'n dweud bod y mwyafrif o athrawon eisiau canllawiau cenedlaethol ar ffonau symudol mewn ysgolion.

Anna BrychanFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anna Brychan ei bod yn cefnogi "cyflwyno cyfyngiadau clir a chadarn ar y defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol"

Dywedodd Brychan y byddai'n dechrau ymgynghori ar reolau ar gyfer ysgolion a chynghorau ym mis Medi.

Dywedodd: "Dwi am fod yn glir: fel gweinidog cabinet, dwi'n rhoi fy nghefnogaeth lawn i benaethiaid – ac yn eu hannog yn gryf – i gyflwyno cyfyngiadau clir a chadarn ar y defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol, hyd at ac yn cynnwys cyfyngiad llwyr ar draws safle'r ysgol."

Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion bolisïau ffonau symudol eisoes, meddai arolwg y llywodraeth.

Ond roedd 82% o'r staff a ymatebodd eisiau cyfyngiadau statudol – rheolau y mae'n rhaid i bob ysgol eu dilyn.

Nid yw'n glir eto pa mor gyfyngol fydd y canllawiau cenedlaethol ac a fyddan nhw'n dweud y dylid stopio plant rhag defnyddio ffonau yn ystod amser egwyl.

Merch ar ei ffônFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhai ysgolion yn gofyn i ddisgyblion gloi eu ffonau mewn cwdyn ar ddechrau'r dydd.

Yn Lloegr, mae disgwyl i ysgolion atal disgyblion rhag defnyddio ffonau, gan gynnwys yn ystod gwersi, oni bai am mewn amgylchiadau eithriadol. Mae Llywodraeth y DU wedi addo gwaharddiad cyfreithiol ar ffonau yn ysgolion Lloegr.

Ychwanegodd Brychan: "Dwi'n ymwybodol y bydd angen gallu gwneud eithriadau bob amser yn achos rhai plant, am resymau meddygol er enghraifft.

"Drwy ymgynghori ar y canllawiau ar ddechrau'r flwyddyn ysgol, dwi'n rhoi'r eglurder i ysgolion y maen nhw ei eisiau yn gyflym, ac yn creu amgylchedd dysgu mwy diogel drwy gyfyngu nawr ar yr elfennau sy'n tynnu sylw'r dysgwyr."

Roedd disgwyl iddi amlinellu ei blaenoriaethau mewn datganiad i'r Senedd ddydd Mawrth.

Daw hyn ddiwrnod ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol i blant dan 16 oed.

Yn etholiad y Senedd, addawodd Plaid Cymru gyfyngiadau ar ddefnyddio ffonau symudol yn eu maniffesto.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod yr arolwg gweithlu yn dangos "cefnogaeth glir i weithredu cenedlaethol cryfach".

Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Sam Rowlands, bod y blaid "eisiau ffonau symudol allan o ystafelloedd dosbarth, fel y gall disgyblion ganolbwyntio a gall safonau wella ledled Cymru".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.