Arestio bachgen 13 oed ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn tân mewn clwb rygbi

- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 13 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o achosi tân bwriadol a cheisio llofruddio yn dilyn tân mewn clwb rygbi yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd bachgen 11 oed anafiadau difrifol yn ystod y digwyddiad, ond mae mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi derbyn adroddiad am dân yng Nghlwb Rygbi Trimsaran tua 18:15 ddydd Sadwrn, 23 Mai.
Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu: "Honnir bod cynhwysydd wedi cael ei roi ar dân yn fwriadol, gan achosi difrod sylweddol i'r cynhwysydd a'i gynnwys."
Mewn neges ar Facebook, dywedodd y clwb: "Roedd y bachgen yn sownd y tu mewn a dim ond oherwydd arwriaeth rhai o aelodau ein clwb y llwyddodd i ddianc."
Dywedodd y clwb fod y bachgen 11 oed yn cael triniaeth yn Ysbyty Treforys.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod yr ymchwiliad yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.