Penodi Rhinedd Williams yn Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd

Rhinedd MairFfynhonnell y llun, Gorsedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Rhinedd Williams - Rhinedd Mair yn yr Orsedd - yn ymgymryd â'r rôl yn llawn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro yn 2026

  • Cyhoeddwyd

Mae Rhinedd Williams wedi cael ei phenodi yn Arolygydd Gwisgoedd newydd Gorsedd Cymru.

Fe fydd yn olynu Ela Jones, a fu yn y rôl ers 2011.

Wrth wahodd ceisiadau ym mis Tachwedd am olynydd, dywedodd Bwrdd yr Orsedd bod Ela Cerrigellgwm, fel y mae'n cael ei 'nabod yn yr Orsedd, wedi penderfynu camu'n ôl ar ddiwedd Eisteddfod Genedlaethol 2025.

Dywedodd Rhinedd Mair - ei henw gorseddol ers cael ei derbyn yn aelod yn 2006 - ei bod yn edrych ymlaen at gysgodi ei rhagflaenydd yn Wrecsam ym mis Awst cyn ymgymryd â'r gwaith yn llawn yn 2026.

Yn Sir Benfro y bydd ei Phrifwyl gyntaf wrth y llyw.

Yn y sir honno y cafodd ei magu, ym Maenclochog, "ar aelwyd lle'r oedd y Gymraeg a'i diwylliant a'i thraddodiadau yn holl bwysig a phwyslais mawr ar eisteddfota".

Yn gyn-ddisgybl Ysgol y Preseli, Crymych, mae'n cofio "cystadlu'n unigol yn yr Urdd a'r Genedlaethol, perfformio mewn cyngherddau ac yn y capel drwy ganu ac adrodd".

Ychwanegodd bod "gwaith gwnïo a chrefft hefyd yn rhan fawr o'm plentyndod gan fod mam yn wniyddes heb ei hail ac fe drosglwyddwyd yr arfer a'r ddawn i mi a'm chwaer, Shân".

Gwisgoedd aelodau Gorsedd y Beirdd
Disgrifiad o’r llun,

Arolygydd y Gwisgoedd sy'n sicrhau bod gwisgoedd a thlysau aelodau'r Orsedd yn lân ac mewn cyflwr da ar gyfer seremonïau

Fe raddiodd Rhinedd o Goleg y Drindod, Caerfyrddin a threulio cyfnod yn Gofrestrydd y Coleg.

Mae hi'n byw yn Llanddarog, yn Sir Gâr, ers 33 o flynyddoedd, ac wedi magu tri o blant gyda'i gŵr Geraint.

Fe fu'n athrawes piano, yn gyfeilydd ac yn dysgu canu mewn ysgolion lleol cyn dychwelyd i'r byd gweinyddol a gweithio fel rheolwr swyddfa i sefydliadau fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg.

Yn 2007 fe gydsefydlodd 'Adran y Neuadd Fach' ym Mhorthyrhyd er mwyn trosglwyddo profiadau ei phlentyndod i'r genhedlaeth nesaf.

Hi oedd cyd-enillydd gwobr Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled yn 2017 am ei gwaith yn hyfforddi ac yn cydweithio gyda phobl ifanc ardal Cwm Gwendraeth.

Ela Jones ac un o gynorthwywyr y gwisgoedd
Disgrifiad o’r llun,

Ela Jones (chwith) yn smwddio gwisgoedd yr Orsedd cyn seremoni'r Cadeirio yn 2014

Gan ddisgrifio'r Orsedd fel "rhan allweddol o'n diwylliant fel Cymry [a] hen draddodiad sy'n parhau i ddatblygu a mynd o nerth i nerth", dywed Rhinedd ei bod hi'n "bwysig ei gwarchod, gan fod cymaint o'n traddodiadau Cymreig ni'n diflannu".

"Mae'r seremonïau'n lliwgar ac yn ystwyth, ond heb golli urddas," meddai.

"Anrhydedd fawr yw cael fy newis fel Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd, ac rwy'n edrych ymlaen at gael cysgodi Ela Cerrigellgwm a dysgu oddi wrthi yn ystod y misoedd sy'n dod, cyn ymgymryd â'r rôl yn llawn yn fy ardal enedigol, wrth ymbaratoi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2026 yn Sir Benfro."

Mae'r Archdderwydd Mererid wedi diolch i bawb a ymgeisiodd ar gyfer y swydd, ac i Ela Cerrigellgwm "am ei gwasanaeth ardderchog ar hyd y blynyddoedd".

Ychwanegodd: "Rydym ni'n falch iawn o groesawu Rhinedd Mair atom ni.

"Bydd yr Orsedd heb os yn elwa'n fawr o'i phrofiad, ei doniau a'i gweledigaeth."

Pynciau cysylltiedig