Melin Llynon yn ôl yn wyn ar ôl ei phaentio ar gyfer Eisteddfod yr Urdd

Melin LlynonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
  • Cyhoeddwyd

Mae Melin Llynon ar Ynys Môn, a gafodd ei phaentio'n goch, gwyn a gwyrdd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, wedi cael ei phaentio'n ôl i'w lliw gwyn blaenorol.

Roedd deiseb wedi'i llunio gan y tenant Richard Holt i gadw'r lliwiau amryliw ar y felin, gan eu bod wedi profi'n boblogaidd ymhlith ymwelwyr a rhai yn lleol.

Fodd bynnag, roedd y newid wedi codi pryderon Cyngor Ynys Môn gan fod y felin yn adeilad rhestredig.

Yn ôl Cyngor Sir Ynys Môn, er bod Melin Llynon bellach wedi'i hail-baentio'n wyn, dydyn nhw ddim wedi archwilio'r gwaith eto, felly does dim modd cadarnhau bod yr holl faterion wedi'u datrys.

Melin Llynon wedi ei phaentio gyda lliwiau'r UrddFfynhonnell y llun, Phil Hen
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Melin Llynon ei phaentio'n goch, gwyn a gwyrdd ym mis Mai

Dyma'r unig felin wynt sy'n dal i weithredu yng Nghymru.

Ym mis Mai fe benderfynodd Richard Holt i baentio'r felin i gyd-fynd â lliwiau Urdd Gobaith Cymru, gan fod eisteddfod y mudiad ieuenctid ar fin cael ei chynnal ar yr ynys.

Ond cafodd orchymyn gan y cyngor i ailbaentio'r adeilad yn wyn cyn gynted â phosib, gan nad oedd wedi cael caniatâd i newid yr adeilad rhestredig.

Richard Holt o flaen y felin
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Richard Holt yn credu y gallai cadw'r lliwiau helpu'r felin i aros ar agor gan fod cymaint o ymwelwyr yn dod i'w gweld

Roedd Holt yn bwriadu ailbaentio'r felin yn ôl yn syth ar ôl yr Eisteddfod, ond cafodd ei synnu gan ymateb croesawgar ymwelwyr a phobl leol - felly aeth ati i gyflwyno deisebau i glywed barn y bobl.

Ar y pryd, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn y byddai unrhyw gais yn y dyfodol am ganiatâd adeilad rhestredig yn cael ei benderfynu yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, polisi cynllunio a dyletswyddau'r Cyngor i ddiogelu'r amgylchedd hanesyddol.

Yn ôl Cyngor Sir Ynys Môn, mae cysylltiad rheolaidd wedi bod â Mr Holt gyda'r bwriad o weld y felin, fel adeilad rhestredig, yn cael ei hadfer.

Mae'r cyngor yn ymwybodol bod y felin bellach wedi'i hail-baentio, ond nid yw'r gwaith wedi'i archwilio hyd yma, ac felly "nid oes modd cadarnhau bod yr holl faterion wedi eu datrys".

Cadarnhawyd hefyd "na chafodd cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig ei gyflwyno" er mwyn cadw'r lliwiau coch, gwyn a gwyrdd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.