Marwolaeth dyn o Wynedd yn 'ddamwain' ar ôl cwympo o uchder ym Malta - cwest

Kieran Thomas HughesFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Kieran Hughes tra roedd ar ei wyliau gyda ffrindiau ym Malta ym mis Gorffennaf 2025

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest i farwolaeth dyn 25 oed o Wynedd, a ddisgynnodd o falconi tra'r oedd ar ei wyliau ym Malta wedi cofnodi marwolaeth ddamweiniol o ganlyniad ei fod o dan ddylanwad alcohol ac wedi disgyn o uchder.

Roedd Kieran Thomas Hughes o ardal Caernarfon, ar ei wyliau gyda thri o ffrindiau ym Malta pan ddisgynnodd o falconi gwesty yn Triq Spinola, St Julian's.

Cafodd heddlu Malta eu galw i Westy Cavalieri Art tua 04:15 fore Gwener, 11 Gorffennaf 2025.

Bu farw Kieran Hughes yn y fan a'r lle.

Gwesty Cavalieri Art MaltaFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i westy Cavalieri Art ym Malta ar 11 Gorffennaf 2025

Clywed y cwest bod adroddiadau post mortem gan yr awdurdodau ym Malta yn dangos bod yna "lefel sylweddol" o alcohol yng ngwaed Kieran.

Daeth yr archwiliad post mortem i'r casgliad iddo farw o ganlyniad i anafiadau niferus wrth ddisgyn o uchder.

Dywedodd y crwner cynorthwyol, Elizabeth Dudley-Jones nad oedd tystiolaeth bod unrhyw un arall ynghlwm â'i farwolaeth, a chofnododd iddo farw drwy ddamwain.

Roedd Kieran Hughes yn byw yn Nant Gwynant ac yn gweithio fel peiriannydd meddalawedd ym mharc gwyddoniaeth M-Sparc yn Gaerwen, Ynys Môn.

Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon bu hefyd yn astudio peirianneg ym Mhrifysgol Bangor.

Mewn teyrnged iddo yn dilyn ei farwolaeth dywedodd ei deulu eu bod yn awyddus i bobl ei gofio fel person "hapus, cariadus, llawn bywyd", gan ei ddisgrifio fel "mab ac efaill arbennig".

Dywedodd y crwner wrth deulu Mr Hughes a oedd yn bresennol yn y gwrandawiad bod ei farwolaeth yn "drychineb llwyr", a'i fod yn "ddyn anhygoel".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig