Ci o Ben Llŷn wedi'i ganfod yn Lloegr ar ôl 'tair wythnos o boeni'

Aeth Elen i nôl Turbo o'r filfeddygfa yn Derby ddydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae teulu o Ben Llŷn yn ddiolchgar i'r cyfryngau cymdeithasol am eu help yn dod o hyd i'w ci a gafodd ei ddarganfod 200 milltir i ffwrdd yng nghanolbarth Lloegr.
Aeth Turbo ar goll o Langwnnadl ddiwedd Mehefin ac mae ei berchennog Elen Williams wedi bod yn ffonio milfeddygfeydd ac yn gwneud apêl ar y cyfryngau cymdeithasol i geisio dod o hyd i'r ci defaid saith oed.
Ddydd Iau cafodd Elen alwad ffôn gan filfeddygfa yn Derby, yn dweud ei fod yn ddiogel yno ar ôl cael ei ganfod gan gwpl yn cerdded ar ochr lôn.
Does dim sicrwydd hyd yma sut gyrhaeddodd Turbo ganolbarth Lloegr.
Mae Elen yn credu y gallai rhywun fod wedi ei ddwyn, a bod y sylw ar y cyfryngau cymdeithasol o bosib wedi dychryn y bobl oedd yn gyfrifol, a'u bod felly wedi ei ryddhau.
"Dyma fo adra o'r diwedd!" meddai Elen.
"Mae hi wedi bod yn dair wythnos o boeni, ffonio a chwilio am Turbo."

Mae Turbo (ail o'r dde) yn ôl adref erbyn hyn ar ôl ei antur
Gyda fferm y teulu yn agos at Draeth Penllech, dywedodd Elen wrth raglen Post Prynhawn bod eu cŵn yn hoff o fynd eu hunain i'r traeth cyn dod yn ôl i'r fferm am y noson.
Ond fe sylweddolodd Elen nos Wener 26 Mehefin nad oedd Turbo wedi dychwelyd i gael swper.
Yn yr wythnosau ers hynny mae'r teulu wedi bod yn apelio am wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn dweud bod maint yr ymgyrch wedi eu synnu.
'Lledaenu'r neges'
"Ddim yn aml mae rhywun yn cael y cyfle i ganmol y cyfryngau cymdeithasol, ond fedra i ddim canmol digon arnyn nhw dros y dair wythnos diwetha'," meddai.
"'Naeth o jyst chwyddo, oedd o'n anhygoel - o un person yn rhannu i fod o'n cyrraedd bob rhan o'r wlad.
"Wedyn ddo'th 'na griw o wirfoddolwyr sy'n helpu pobl chwilio am gŵn a chathod coll, ac oedden nhw wedyn yn medru lledaenu'r neges yn bellach."
Y gwirfoddolwyr hynny oedd criw Muddy Paws, ac mae Elen yn llawn canmoliaeth o'r grŵp ac yn falch iawn o'u cymorth.
"Oedden nhw'n wych, oedden nhw'n medru anfon neges yn sydyn, cyrraedd gwaelod Lloegr a phen draw Yr Alban mewn dim, a phawb yn gweld y ci ar goll - dangos faint ma' pobl yn licio cŵn!"

Gyrrodd Elen bron i bedair awr i nôl Turbo o'r filfeddygfa yn Scarsdale yn Derby
Ag yntau wedi bod ar goll ers bron i dair wythnos, dydd Iau cafodd Elen alwad ffôn gan filfeddygfa yn Derby yn dweud bod cwpl wedi ei ganfod yn crwydro ar ochr lôn yn gynnar yn y bore.
"Ges i alwad ffôn gan y filfeddygfa yn ganol tref Derby yn gofyn am y ci coll," meddai.
"Oedden nhw wedi sganio microchip y ci, ac o'n i wedi nodi fod o ar goll.
"Dyma fi'n rhoi'r cod post i mewn i ffeindio lle o'n i fod i fynd, a deall bod gen i daith o bedair awr!
"Ond nes i neidio mewn i'r car a mynd yn syth - doedd dim rhaid i fi feddwl ddwywaith.
"Oedd o mor anghredadwy, ar y ffordd dyma fi'n ffonio nhw 'nôl eto jest i 'neud yn siŵr!"
Mae Turbo bellach yn ôl adref, gyda'r teulu yn gobeithio na fydd yn cael antur arall o'r fath yn fuan.
Profiad tebyg 12 mlynedd yn ôl
Yn anhygoel, nid dyma'r tro cyntaf i Elen a'r teulu golli ci a'i ganfod gannoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Fe gafon nhw yr un profiad yn 2014.
"Oedd Pero, taid Turbo, yn gi defaid ac wedi mynd ar goll am wythnosau ar ôl mynd am dro i lan y môr," meddai Elen.
"Ddaru nhw ffeindio fo ar ochr lôn - oedd hwnnw hefyd yn Bolton o bobman!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2016
