Corff bachgen 15 oed wedi'i ganfod ar ôl mynd i drafferthion yn y môr

Traeth Marloes
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Gwylwyr y Glannau, roedd tri pherson wedi mynd i drafferthion yn y dŵr yn ardal Traeth Marloes

  • Cyhoeddwyd

Mae corff bachgen 15 oed a aeth i drafferthion yn y môr oddi ar arfordir Sir Benfro ddiwedd Awst wedi cael ei ganfod.

Fe gafodd Gwylwyr y Glannau wybod tua 15:30 brynhawn Sul, 30 Awst, bod tri pherson "mewn trafferthion yn y dŵr ac angen cymorth" yn ardal Marloes ger Aberdaugleddau.

Llwyddodd dau o'r rheiny i achub eu hunain, ond roedd un yn dal ar goll.

Fe dreuliodd criwiau achub 22 awr ar draws dau ddiwrnod yn chwilio am y nofiwr ifanc - bachgen 15 oed yn ymweld â'r ardal ar wyliau o ardal Sir Efrog, yn ôl yr heddlu.

Dywedodd yr heddlu ddydd Mawrth yr wythnos diwethaf fod yr ymateb i'r digwyddiad wedi dod i ben, ar ôl i dimau chwilio o'r heddlu, Gwylwyr y Glannau a'r RNLI ddefnyddio adnoddau i chwilio o'r awyr, y môr ac ar y tir.

Daeth y chwilio i ben yn swyddogol am 19:30 ar y nos Lun ar ôl i "ddim byd gael ei ganfod a dim gwybodaeth newydd" meddai'r RNLI.