Gwefan AI 'wedi dwyn cannoedd o bunnoedd o'n harian ni'

Gwefan Seren Jewellery ar ffôn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwefan Seren Jewellery ei dileu yn fuan ar ôl i BBC Cymru gysylltu â'r cwmni

GanGwen Aeron
Newyddion Radio Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cwsmeriaid sy'n dweud iddyn nhw gael eu twyllo gan wefan oedd wedi'i chreu gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus ac yn galw am fynd i'r afael â gwefannau o'r fath.

Dywedodd nifer o gwsmeriaid wrth BBC Cymru eu bod wedi prynu gemwaith o wefan 'Seren Jewellery', gan gredu eu bod yn cefnogi busnes lleol yng Nghymru.

Ond dywedon nhw eu bod yn dal i aros am yr eitemau fisoedd yn ddiweddarach, ac yn "dal i aros am yr arian 'nôl".

Ar ôl i BBC Cymru gysylltu â'r cwmni, cafodd y wefan ei dileu.

Mae BBC Cymru wedi gwneud sawl ymgais i gael ymateb gan y cwmni, ond ni chafwyd unrhyw ateb.

Lowri Ann
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lowri yn dweud iddi golli tua £100 ar ôl archebu gemwaith o'r hyn mae'n honni oedd gwefan ffug

Roedd Lowri Ann yn un o'r rhai a brynodd emwaith o wefan Seren Jewellery ar ôl gweld hysbyseb ar-lein.

Roedd y wefan yn honni eu bod yn fusnes o Gaerdydd oedd yn cau oherwydd "rhesymau personol".

Roedd yn nodi eu bod yn cynnal gwerthiant cau lawr, gyda gostyngiadau o hyd at 80%, ac yn annog cwsmeriaid i brynu'r stoc olaf cyn iddyn nhw gau am byth.

Disgrifiad,

Dywedodd Lowri ei bod wedi'i denu gan yr enw Cymreig a'r honiad ei fod yn fusnes lleol.

"Nes i weld yr enw Seren Cardiff a meddwl, 'waw, busnes lleol'.

"Roedd y gemwaith yn edrych yn hyfryd ac mewn sale mawr.

"Roedd neges ar y wefan yn dweud bod nhw'n gorfod cau oherwydd costau byw, felly nes i brynu."

Gwariodd tua £100 ar glustdlysau a mwclis, ond wythnosau'n ddiweddarach doedd dim wedi cyrraedd.

"Nes i ebostio sawl gwaith ond doedd dim ymateb.

"Wedyn nes i ddechrau ymchwilio a sylweddoli bod y lluniau wedi'u dwyn o wefannau eraill.

"Dyna pryd nes i sylweddoli 'mod i wedi cael fy sgamio."

Dywedodd ei bod hi'n "ifanc ac fel arfer yn dda am adnabod sgamiau", ond bod y wefan wedi'i thwyllo'n llwyr.

"Pan ti'n edrych ar yr holl reviews mae'n amlwg bod y cwmni AI yma wedi dwyn cannoedd o bunnoedd gan bobl. Mae angen ei stopio."

'Cwestiynu popeth ti'n ei weld ar-lein'

Roedd Finnley Idris yn chwilio am anrheg pen-blwydd i'w gariad pan ddaeth ar draws y wefan.

Gan fod y cwmni'n honni ei fod yn fusnes Cymreig, dywedodd ei fod yn awyddus i gefnogi busnes lleol.

"O'n i eisiau prynu rhywbeth lleol iddi. Roedd y wefan yn edrych yn broffesiynol iawn ac roedd popeth yn edrych yn ddilys."

Ond ar ôl wythnosau o aros, doedd dim golwg o'r gemwaith.

"Nes i sganio'r lluniau gan ddefnyddio tool arbennig a gweld wedyn eu bod nhw wedi dod o wefannau eraill.

"Dyna pryd nes i clocio 'mod i wedi cael fy sgamio."

Finnley Idris
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Finnley Idris, "mae AI wedi gwneud hi'n llawer rhy hawdd i greu gwefannau sy'n edrych yn gwbl ddilys"

Dywedodd nad oedd unrhyw beth yn codi amheuaeth ar y dechrau.

"Roedd telerau fel '30 day money back guarantee' a 'secure payment'.

"Roedd popeth yn edrych yn real. Dim ond wedyn nes i weld bod y cyfan yn ffug."

Mae Finnley yn credu bod angen mwy o reoleiddio ar gynnwys sy'n cael ei greu gan ddeallusrwydd artiffisial.

"Mae AI wedi gwneud hi'n llawer rhy hawdd i greu gwefannau sy'n edrych yn gwbl ddilys.

"Erbyn hyn mae'n teimlo bod rhaid cwestiynu popeth rwyt ti'n ei weld ar-lein."

'AI yn gwneud hi'n rhy hawdd i dwyllo pobl'

Dechreuodd Jack Knowles edrych yn fanylach ar wefan Seren Jewellery ar ôl i'w fam fynegi rhwystredigaeth nad oedd eitemau wedi cyrraedd, er iddi dalu cannoedd o bunnoedd.

Dywedodd iddo geisio olrhain yr archeb a chysylltu â'r cwmni, ond heb unrhyw lwyddiant.

"O'dd Mam 'di prynu braclet oddi ar y wefan, a wythnosau wedyn doedd dim parsel.

"O'n i'n trio ffeindio parcel tracking neu ffordd o gysylltu efo nhw, ond doedd dim byd.

"'Naethon ni anfon llwyth o emails hefyd ond dim ateb."

Jack Knowles
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jack Knowles ei bod yn "eitha' ofnus" bod AI yn gallu creu gwefannau mor realistig, a'i "bod mor hawdd gwneud hynny"

Wrth edrych ymhellach i'r wefan, dywedodd iddo sylweddoli pa mor soffistigedig oedd y twyll.

"O'dd e'n edrych fel gwefan go iawn, yn broffesiynol. O'dd hi heb sylweddoli, a nes i ddim chwaith."

Mae'n credu bod y defnydd cynyddol o AI yn gwneud hi'n haws nag erioed i sgamwyr greu gwefannau sy'n ymddangos yn ddilys.

"Mae'n eitha' ofnus bod AI yn gallu gwneud gwefan mor realistig, a bod e mor hawdd gwneud hynny erbyn hyn.

"Mae'n mynd i ddigwydd eto ac eto os na chaiff rhywbeth ei wneud."

Sgam sy'n dod yn fwyfwy cyffredin

Dywedodd Ditectif Arolygydd Iolo Edwards o Heddlu'r Gogledd fod sgamiau sy'n defnyddio AI yn dod yn fwyfwy cyffredin.

"Mae troseddwyr yn defnyddio technoleg fel AI i greu gwefannau sy'n edrych yn gwbl ddilys, ac mae hynny'n ei gwneud hi'n llawer anos i ddefnyddwyr adnabod sgam.

"Mae angen i'r defnydd o AI ddatblygu ochr yn ochr â mesurau sy'n diogelu'r cyhoedd.

"Wrth i'r dechnoleg ddatblygu, mae'n bwysig bod defnyddwyr yn gallu ymddiried yn yr hyn maen nhw'n ei weld ar-lein."

Mae gwefannau wedi'u creu gan ddeallusrwydd artiffisial ar gynnydd, yn ôl data Llywodraeth y DU.

Dywedodd llefarydd bod twyll ar-lein yn "weithred ffiaidd", a bod y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn ei gwneud hi'n ofynnol i gwmnïau ddiogelu defnyddwyr rhag twyll anghyfreithlon, gan gynnwys twyll sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial.

O flwyddyn nesaf ymlaen, bydd yn rhaid i lwyfannau digidol mawr gymryd camau ychwanegol i amddiffyn defnyddwyr rhag hysbysebion

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.