Galw ar y llywodraeth i gynnal astudiaeth o'r sin gerddorol Gymreig

Yws Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Yws Gwynedd yn gadeirydd Cymdeithas Labeli Cymru

GanGwen Aeron
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas Labeli Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu astudiaeth o'r sin gerddorol Gymreig er mwyn gweld faint yw ei gwerth i economi'r wlad, a rhoi platfform teilwng i artistiaid.

Yn gynharach eleni fe gafodd Cymdeithas Labeli Cymru ei ffurfio er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i labeli a cherddorion.

Dywedodd y cadeirydd, Yws Gwynedd: "Dwi'n meddwl se'n ni'n licio i'r llywodraeth gomisiynu astudiaeth i fewn i'r sin gerddorol Gymreig i weld faint mae o werth i economi Cymru a wedyn bydd modd rhoi strategaeth at ei gilydd fel bo' ni'n cydweithio i hybu'r artistiaid.

"Dan ni ddim yn cystadlu yn erbyn ein gilydd – 'dan ni jyst yn trio rhoi platfform i'r artistiaid gwych sy'n dod allan o Gymru."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "cymryd y cam cyntaf tuag at strategaeth newydd ar gyfer Diwylliant a Chwaraeon", a'u bod yn trafod â Chymdeithas Labeli Cymru am sut i gryfhau'r sector.

Daw sylwadau Yws Gwynedd wrth i Radio Cymru nodi ddydd Llun fel Diwrnod Recordiau Cymraeg.

Gydol y dydd bydd sylw arbennig i gerddoriaeth sydd wedi'i rhyddhau ar finyl.

KevFfynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n bwysig bod ein lleisiau yn cael eu clywed," medd Kev Tame o gwmni Sain

Mae Kev Tame, prif weithredwr Sain – cwmni a gafodd ei sefydlu yn 1969 ac sy'n ddiweddar wedi ailgynhyrchu ambell finyl – yn cytuno.

"Mae'r heriau 'da ni'n eu hwynebu yn real – maen nhw'n ariannol ac mae 'na ddiffyg arian i ni allu creu a chefnogi artistiaid gymaint â 'sen i'n licio.

"Wrth gwrs, rhain yw'r artistiaid sy'n bwydo fewn i raglenni radio, rhaglenni teledu, gwyliau a gigs byw yng Nghymru a thu hwnt.

"Mae'n bwysig iawn i'r ecosystem yn ei gyfanrwydd – y tu hwnt i roi'r record allan.

"Mae'n rhywbeth i bawb weithio, tynnu yr un ffordd arno, ond mae'n rhywbeth sydd angen ei wynebu rŵan i ni fel labeli a chwmnïau cerddoriaeth – mae'n bwysig bod ein lleisiau yn cael eu clywed."

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae gwerthiant recordiau finyl yn uwch.

Mae hynny i'w groesawu ac yn hynod o bwysig yng Nghymru, medd y cerddor Elis Derby.

"Yng Nghymru yn enwedig mae gwario 'chydig bach mwy ar finyl, neu ryw fformat physical yn mynd yn bell – achos i bob stream ar Spotify 'da ni ond yn cael 0.4c," meddai.

"Dydy cerddoriaeth ddim yn broses rhad, felly allwch chi ddychmygu yng Nghymru mae'n mynd yn bell iawn.

"Mae'n neis hefyd pan ti'n gwrando ar record ti 'di dalu amdani bo' ti'm yn gorfod gwrando ar hysbyseb munud o hyd wrth i'r albwm gychwyn. Pa mor braf ydy hynny?"

Ychwanegodd Yws Gwynedd: "O ran finyls mae ystadegau yn dweud bod dros hanner y bobl sy'n prynu finyls heb beiriant i chwarae finyls – felly mae'n dangos pwysigrwydd nhw i gefnogi'r artistiaid maen nhw'n eu caru ac felly mae dydd finyls yn rywbeth rili cool i 'neud."

Mae gwerthiant recordiau finyl wedi bod yn uwch yn ystod y blynyddoedd diwethafFfynhonnell y llun, Ankst/Sain
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwerthiant recordiau finyl wedi bod yn uwch yn ystod y blynyddoedd diwethaf

I Owain Williams o wefan gerddoriaeth annibynnol a chylchgrawn Klust, mae chwarae record yn brofiad arbennig.

"Mae gen ti gymaint o gerddoriaeth allan yna ar hyn o bryd – ond yn amlwg be' sy' ar goll o wrando'n ddigidol yw'r profiad o ddal rhywbeth yn dy law di.

"Gyda feinyl ti'n gallu gwerthfawrogi'r celf ar y clawr hefyd."

Mae'r hanesydd roc a phop Philip Wyn Davies yn cytuno ac yn cofio gydag angerdd ei brofiad o fynd i brynu recordiau yn Siop Recordiau Cob ym Mhorthmadog.

"Mae'r holl broses yn tactile - ti'n gorfod dewis y record, ti'n gorfod tynnu hi allan - glanhau hi 'falla, rhoi hi ar y turntable, dewis y cyflymder - yna mae'r sŵn cynnes yn dod allan.

"Mae'r siopau bach 'ma, mae'r bobl sy'n rhedeg nhw - ie maen nhw isio pres, ond maen nhw'n 'neud o achos bo' nhw'n caru'r gerddoriaeth - maen nhw isio rhannu be' sy' gynnyn nhw.

"Mae o'n rhywbeth cymdeithasol yn tydi? Dim mynd i dafarn ond prynu records!"

Addo strategaeth newydd

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cefnogi sector cerddoriaeth Cymru drwy Gymru Greadigol, gan gydnabod anghenion y diwydiant a darparu cymorth ymarferol ac ariannol".

"Rydyn ni eisoes mewn trafodaethau â Chymdeithas Labeli Cymru am sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i gryfhau sector cerddoriaeth Cymru er budd pawb.

"Yn gynharach y mis hwn fe wnaethon ni gymryd y cam cyntaf tuag at strategaeth newydd ar gyfer Diwylliant a Chwaraeon, a fydd yn seiliedig ar gamau ymarferol pendant i wireddu gweledigaeth Cymru fel pwerdy diwylliant a chwaraeon.

"Dyma'r tro cyntaf i strategaeth ddiwylliant Llywodraeth Cymru gynnwys chwaraeon a'r diwydiannau creadigol, gyda chamau gweithredu mesuradwy ar gyfer pob sector."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.