Cystadleuaeth golff ym Môn sy'n codi arian i achosion lleol yn dathlu'r 40

Dafydd Williams a Derek EvansFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Williams ydy cadeirydd y pwyllgor trefnu, ac mae Derek Evans yn aelod o'r pwyllgor

GanNia Thomas
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cystadleuaeth golff ar Ynys Môn sy'n cefnogi cymdeithasau lleol ar fin cyrraedd carreg filltir nodedig.

Bydd Golff Llannerchymedd yn dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu cyn diwedd y mis.

Fe gafodd y gystadleuaeth ei sefydlu yn y lle cyntaf yn 1986, i fod yn achlysur cymdeithasol yn unig.

Ond ddechrau'r ganrif fe benderfynodd y trefnwyr - criw o wirfoddolwyr o'r pentref - fynd ati i godi arian hefyd.

Ers hynny maen nhw wedi llwyddo i godi dros £50,000 ar gyfer achosion lleol.

"Roedd 'na un neu ddau wedi bod yn chwarae pêl-droed i Lannerchymedd ers rhai blynyddoedd ac yn dechrau mynd yn hen," meddai Derek Evans, aelod o'r pwyllgor trefnu, wrth raglen Post Prynhawn ar Radio Cymru.

"Felly y syniad oedd bod 'na griw yn dod at ei gilydd i chwarae golff yn enw Llannerchymedd a threfnu cystadleuaeth.

"Pedwar ohonyn nhw - John Jukes, Arfon Jones, Tony Lewis a Ronnie Gadsby.

"Yr enillydd cyntaf oedd Tony Lewis a mae o'n dal i chwarae hyd heddiw."

Gareth Gadsby yn gwenu wrth ddal y tlws ar ôl ennill cystadleuaeth 2025Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Gadsby oedd enillydd cystadleuaeth y llynedd

Mae unigolion a busnesau lleol yn noddi twll ar y cwrs golff ym Mhorth Llechog ac mae nodyn bach ar bob twll yn dweud pwy sydd wedi gwneud hynny.

Ar hyd y blynyddoedd mae'r ysgol gynradd, capeli ac eglwys y pentref wedi cael arian.

Y llynedd, cronfa leol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd oedd ar ei hennill, ond eleni clybiau pêl-droed ieuenctid Llannerchymedd fydd yn elwa.

"Mae 'na 13 o dimau pêl-droed yma," meddai Dafydd Williams, cadeirydd y pwyllgor ers pum mlynedd.

"Maen nhw'n ofnadwy o dda yma, ac ar foreau Sadwrn a Sul mae caeau Tanparc yn brysur iawn.

"Mi fydd y pres yn eu helpu nhw yn ofnadwy. Mae yswiriant a phethau fel 'na yn ddrud. Mi helpith nhw lot."

O naw cystadleuydd i fwy na 70

Er mwyn cystadlu mae'n rhaid i unigolyn fod â chysylltiad gyda'r pentref, neu fod yn ŵr neu wraig gwadd i chwaraewr o Lannerchymedd.

"Mae o'n anhygoel - wedi dechrau ar raddfa fechan ym 1986 a naw yn chwarae am y tro cyntaf," meddai Derek Evans.

"Erbyn y flwyddyn ddiwethaf, [roedd] dros 70 yn chwarae."

27 Medi ydy dyddiad y gystadleuaeth eleni, gyda'r pwyllgor yn gobeithio y bydd y tywydd yn ffafriol.

"'Dan ni wedi gorfod gohirio ddwywaith neu dair gwaith oherwydd y tywydd," meddai Dafydd Williams.

"Ond 'dan ni'n edrych ymlaen yn ofnadwy gan obeithio y bydd y tywydd yn ffafriol.

"Os ydy rhywun isio cystadlu mae gynno ni dudalen Facebook – Golff Llannerchymedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig