Y gwres llethol yn effeithio ar ddigwyddiadau a thrafnidiaeth

Yr olygfa'n Llangollen fore SadwrnFfynhonnell y llun, Alastair Llangollen/Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa'n Llangollen fore Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r tywydd poeth ar draws Cymru wedi cael effaith ar ddigwyddiadau a thrafnidiaeth ar draws y wlad.

Yn ôl y rhagolygon, bydd y tymheredd yn codi i dros 30°C mewn nifer o leoliadau yng Nghymru dros y penwythnos.

Mae problemau gyda gwasanaethau trenau o ganlyniad i'r tywydd cynnes.

Bu'n rhaid gohirio cystadlaethau rhedeg Digwyddiad Marathon Llwybr Eryri ddydd Sadwrn oherwydd y tywydd.

Trenau wedi eu gohirio

Mae rhai o wasanaethau trenau wedi cael eu heffeithio o ganlyniad i'r gwres.

Does dim gwasanaeth trên rhwng Machynlleth ac Aberystwyth ac mae disgwyl i nifer o wasanaethau rhwng Wrecsam a Gaer a Casnewydd a Glynebwy gael eu canslo.

Mae cyngor i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau trên ddydd Sadwrn i wirio eu teithiau o flaen llaw.

Marathon Llwybr Eryri wedi'i ganslo

Mae pob digwyddiad rhedeg oedd yn fod i ddigwydd ar Yr Wyddfa ddydd Sadwrn wedi cael eu canslo oherwydd y tywydd poeth.

Ymysg y digwyddiadau oedd Marathon Llwybr Eryri, Hanner Marathon Llwybr Eryri, Llwybr 10 cilometr Eryri ac Yr Wyddfa24.

Mae pob person oedd yn fod i gymryd rhan wedi derbyn e-bost gyda mwy o wybodaeth, yn ôl trefnwyr y digwyddiad, Always Aim High Events.

Dywedodd y trefnwyr mewn cyhoeddiad eu bod yn "deall pa mor siomedig fydd y newyddion" i redwyr ond bod cynnal y digwyddiadau yn y gwres yn peri risg "hynod uchel" i ddiogelwch.

Afonydd yn isel

Ar ôl tair cyfnod o dywydd poeth dros yr haf hyd yn hyn a chyfnod hir o dywydd sych a barhaodd am sawl wythnos, mae lefelau afonydd mewn rhai rhannau o Gymru bellach yn isel iawn.

Mae data gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn dangos bod Afon Wysg yng Nghrucywel, Powys bellach yn is nag yn y record flaenorol a osodwyd ym mis Gorffennaf 2010.

Mae afonydd eraill, gan gynnwys y Teifi, y Tywi, Afon Taf a'r Gwy, hefyd yn agos i'w lefelau isaf erioed, gyda rhagolygon o ragor o dywydd poeth a sych.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig