Rhybuddio pobl ifanc wrth i rai droi at YouTube a TikTok i ddysgu gyrru

Mae Megan yn un o nifer sydd wedi defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i'w helpu i ddysgu gyrru
- Cyhoeddwyd
Mae rhai pobl ifanc yn dweud eu bod yn troi at fideos ar-lein, gan gynnwys YouTube a TikTok, i ddysgu gyrru er mwyn ceisio cadw'r costau i lawr.
Dywedodd Megan Kielthy, a basiodd ei phrawf ymarferol ym mis Awst, fod fideos ar y cyfryngau cymdeithasol "yn bendant" wedi arbed arian iddi, ond ei bod hefyd wedi gweld rhai fideos yn cynnwys gwybodaeth anghywir.
Yn ôl yr RAC, mae cost gwersi gyrru yn y DU bellach rhwng £35 a £50, gyda'r dysgwr cyffredin angen tua 45 awr o wersi a 22 awr ychwanegol o ymarfer.
Dywedodd y Driving Instructors Association (DIA) y gallai dysgwyr fod yn ddigon ffodus i basio prawf drwy wylio fideos ar y cyfryngau cymdeithasol, ond yn rhybuddio fod diogelwch ar y ffyrdd yn fater o "fywyd a marwolaeth".
Fideos yn 'cadw'r costau lawr'
Mae cyfanswm cost dysgu gyrru tua £2,460, yn ôl y DIA - cynnydd o fwy na £570 ers 2020.
Mae angen i ddysgwyr hefyd dalu am brawf theori sydd yn £23, prawf ymarferol sydd yn £65, ac yswiriant gyrru dros dro ar gyfer ceir personol, a all gostio rhwng £40 a £50 y mis.
Fe basiodd Megan, 18 oed, ei phrawf gyrru ym mis Awst ac fe benderfynodd hyfforddi gyda hyfforddwr dan hyfforddiant er mwyn arbed arian.
Er hyn, dywedodd fod y gwersi wedi costio mwy na £1,000 iddi beth bynnag.
"Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi gallu gwneud hyn heb y cymorth ariannol gan fy rhieni," meddai.
"Nes i weld fod cael mynediad at YouTube wedi fy ngalluogi i gadw'r costau lawr.
"Byddwn i'n dysgu'r holl gynnwys gyda fy hyfforddwr, ond wedyn roeddwn i'n gallu adolygu'r deunydd; ac os oedd rhywbeth mewn fideo YouTube nad oeddwn i'n ei wybod neu ddim yn ei ddeall yn llawn, roeddwn i'n gallu mynd yn ôl at fy hyfforddwr i ofyn."
Dywedodd ei bod wedi gweld y fideos yn ddefnyddiol iawn.
Dywedodd: "Treuliais ran o fy amser yn yr ysgol uwchradd yn dysgu ar-lein oherwydd Covid, felly roeddwn i eisoes yn gwybod sut i ddefnyddio cynnwys wedi'i recordio ar gyfer dysgu, ac felly roedd yn teimlo'n naturiol iawn i mi.
"Unwaith i mi ddechrau gwylio ychydig ohonyn nhw, roedd fy holl algorithmau ar y cyfryngau cymdeithasol yn llawn cynnwys yn ymwneud â gyrru."
Ond rhybuddiodd Megan nad oedd yr holl gynnwys a welodd yn ddefnyddiol.
"Ro'n i'n dod ar draws delweddau oedd wedi'u creu gan ddeallusrwydd artiffisial", cynnwys oedd ddim yn gwneud synnwyr o gwbl meddai Mgean.
"Os yw pobl yn dibynnu'n llwyr ar gynnwys ar-lein, gallai hynny arwain at bobl yn mynd i'w prawf heb baratoi'n ddigonol, neu gyda gwybodaeth anghywir.
"Felly, mi wnes i ddibynnu ar gynnwys gan bobl go iawn oherwydd ei fod yn teimlo'n fwy dibynadwy."
Fideos ar-lein wedi bod yn 'stress'

Mi wnaeth Daisy wario tua £2,000 er mwyn pasio ei phrawf gyrru
Mi basiodd Daisy Plews ei phrawf ddiwedd Gorffennaf eleni a hynny ar ôl ymgeisio pum gwaith.
"Mi oedd o'n awful gymrodd hi ryw ddwy flynedd yn y diwedd... ti'n gorfod mynd drwy'r broses o drio bwcio test, ond mae 'na gymaint yn trio bwcio test.
"'Dw i wedi adio fo fyny a dwi'n meddwl fod dreifio wedi costio dwy fil i fi. Ti'n gorfod bwcio bob tro, talu £60 am y prawf ac wedyn yr hyfforddwr £40 am awr o wers... mae'r costau'n fawr ac yn adio fyny."
Dywedodd Daisy ei bod wedi ceisio gwylio rhai fideos ar-lein i'w chynorthwyo, ond heb gael fawr o lwyddiant.
Dywedodd: "Nes i drio defnyddio rhai fideos, ond achos bod 'na gymaint o rai allan yna, mae pawb yn defnyddio ceir gwahanol, ac i fi oedd o'n anodd trio ffeindio hyfforddwr arall oedd yn defnyddio'r un car.
"Pan o'n i'n gweld rhai fideos, mi oeddan nhw'n stressio fi allan... mae pawb yn siarad am wahanol bethau, a doeddwn i'm yn gwybod be ddyliwn i wylio.
"Ti'n gorfod ffendio nhw, scrollio drwy YouTube a TikTok i drio ffeindio nhw, ond mae'n rili anodd.
"Mae wedi bod yn fwy o stress trio ffeindio nhw ac mae gweld pobl eraill yn 'neud pethau o'i le yn stressio fi."

Mae Rhydian Hughes yn creu fideos ei hun i helpu ei fyfyrwyr
Mae Rhydian Hughes yn hyfforddwr gyrru ers sawl blwyddyn ond mae e bellach yn creu fideos dwyieithog ar-lein er mwyn helpu ei fyfyrwyr.
Dywedodd: "'Da ni wedi dod i'r oes digidol a lot o bobl yn cael gwybodaeth ar TikTok a YouTube ac ati.
"O'n i'n gweld pobl yn gofyn cwestiynau... a beth nes i oedd creu fideos bach i egluro ac esbonio mewn manylder.
"Mae pobl ifanc yn cael eu gwybodaeth yn well felly, ac yn ffordd o fynd yn ôl ac ail wylio ac mae'n cyflymu'r broses i gael rywun yn barod at eu prawf nhw."
Dywedodd Mr Hughes ei fod wedi cael ymateb positif i'r fideos, ond yn rhybuddio na ddylai myfyrwyr ddibynnu arnyn nhw yn unig.
"Mae beth sydd allan yna rŵan, dylsa nhw ddim cymryd drosodd cael gwersi gyda rhywun sydd efo trwydded hyfforddwr gyrru. Does dim yn curo y math yna o hyfforddiant.
"Mae 'na lot ohonyn nhw sydd ddim yn rhoi'r wybodaeth gywir... gwyliwch y pethau yma gyda 'chydig o synnwyr cyffredin.
"Ti'n gallu d'eud y gwahaniaeth rhwng y rhai sy'n legit neu ddim," meddai.

Mae'r rhai sydd yn dysgu gyrru yn gorfod aros cyfartaledd o 20 wythnos am brawf ymarferol yn ôl ffigurau gan y DVSA
Dywedodd Carly Brookfield o'r DIA ei bod yn deall y fantais o ennill sgiliau newydd ar-lein, ond pwysleisiodd na ddylai hynny gymryd lle dysgu swyddogol.
"Rwy'n gryf o blaid defnyddio addysg ddigidol ochr yn ochr â hyfforddiant ymarferol gan hyfforddwr proffesiynol," meddai.
"Mae hynny'n wych o safbwynt cost, ond mae hefyd yn wych oherwydd y mwyaf o addysg gyrru gewch chi yn y cyfnod hwn, y mwyaf diogel y byddwch.
"[Ond] i fod yn gwbl onest, mi allwch chi o bosib ddysgu digon ar YouTube a TikTok, ac mi allwch chi, o bosib trwy lwc, basio prawf gyrru," meddai.
"Y prawf mwyaf gyda gyrru a'ch addysg fel gyrrwr hyd at y pwynt hwnnw yw pan fyddwch ar eich pen eich hun ac yn gallu ymdopi â'r risgiau hynny," meddai.
"O ran diogelwch ar y ffyrdd, mae'n fater o fywyd a marwolaeth."
Nifer o gyfrifon sy'n gwerthu profion gyrru ar-lein yn 'ffug' - hyfforddwr
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2025
Gallai gyrwyr dan hyfforddiant orfod aros chwe mis cyn cael prawf
- Cyhoeddwyd7 Ionawr
'Un o bob 20 gyrrwr dros derfyn alcohol neu gyffuriau'
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2024
Dywedodd llefarydd ar ran y DVSA: "Yn ogystal â chyngor gan hyfforddwr gyrru a defnyddio canllawiau dysgu swyddogol... mae nifer o ffyrdd y gall dysgwyr ychwanegu at eu paratoadau ar gyfer y prawf gyrru.
"Gall hyn fod yn gynnwys dibynadwy ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag ymarfer preifat gyda pherthynas neu ffrind."
Mae YouTube a TikTok wedi cael cais i wneud sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.