Galw am fwy o ddiogelwch yn y Sioe Fawr wedi lladradau beiciau cwad

Dywedodd Will Ellis eu bod yn "talu lot am y stondin a meddwl bod stoc ni yn saff, a dydi o ddim"
- Cyhoeddwyd
Mae dyn busnes yn dweud bod angen "mwy o ddiogelwch" ar faes y Sioe Frenhinol ar ôl i feiciau cwad gael eu dwyn.
Mae Will Ellis o Lanbedr ger Harlech yn rhybuddio, os na fydd mwy yn cael ei wneud i atal digwyddiadau o'r fath, y bydd llai o fusnesau yn dod â stoc i'r sioe.
Mae'r heddlu'n ymchwilio i ladrad tri beic cwad o faes y sioe dros y penwythnos.
Dywedodd y Sioe Frenhinol eu bod yn ymwybodol o'r lladradau a'u bod wedi rhoi mesurau diogelwch ychwanegol mewn lle.
'Wedi ei ganfod o fewn awr a hanner'
Mae Will Ellis yn gyfarwyddwr ar gwmni D G Thomas Agri Ltd o Lanbedr, ac wedi bod â stondin yn y Sioe Frenhinol ers blynyddoedd.
Ond nid yw wedi cael y dechrau gorau i'w wythnos wedi i un o'i feiciau cwad gael ei ddwyn oddi ar y maes.
Dywedodd iddo gyrraedd nos Wener i osod y stondin, ond fore Sul fe gafodd alwad ffôn gan Heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod un o'i feiciau cwad wedi cael ei ddwyn.
Yn ffodus iddo, mae beiciau'r cwmni yn cynnwys 'tracker', ac felly roedd modd dod o hyd i'r beic yn sydyn.
"Ro'n i'n gwybod bod 'na tracker ar y beic, so galwad ffôn yn syth i'r cwmni tracker, a chware teg iddyn nhw, 'naethon nhw siarad yn syth gyda Heddlu Dyfed-Powys ac anfon gwybodaeth y live tracker iddyn nhw.
"O fewn awr a hanner roedden nhw wedi ffeindio'r beic ac roedd ar y ffordd 'nôl i'r sioe."

Dyma'r beic cwad a gafodd ei ddwyn gan gwmni Will Ellis dros y penwythnos
Ag yntau wedi hen arfer â'r sioe, dywedodd Mr Ellis ei fod yn "siomedig iawn" ac wedi "cael ofn" yn dilyn y sefyllfa.
"Mae 'na obviouslysecurity fan hyn [ar y maes], a 'da ni'n talu lot am y stondin a meddwl bod stoc ni yn saff, a dydi o ddim.
"Ma' hyn yn digwydd i ffermwyr ar draws Cymru ac ar draws Prydain - mae'n rhaid bod 'na rhyw fath o stop iddo.
"Roedd y beic 'ma dros £6,000. Mae 'na focs oedd ar y beic wedi cael ei ddwyn, a 'da ni ddim wedi cael hwnna 'nôl yn anffodus."
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i ladradau tri beic cwad o faes y sioe yn oriau mân bore Sul.
Cadarnhaon nhw bod un wedi cael ei leoli a'i ddychwelyd i'w berchennog, ond bod dau yn dal ar goll.
Dywedon nhw eu bod wedi defnyddio hofrennydd fel rhan o'u hymchwiliad, bod ymchwiliad fforensig wedi'i gynnal, a'u bod yn gwneud ymholiadau am luniau camerâu CCTV.
'Gwybod bod problem yma'
Mae Mr Ellis o'r farn bod angen mwy o ddiogelwch ar faes y sioe er mwyn atal digwyddiadau o'r fath.
"Yn sicr mae angen mwy o ddiogelwch yma ar y maes.
"Mae 'na gymaint o ymdrech a phres yn mynd mewn i'r stoc i gyd, a gan y dealers a'r manufacturers i gyd.
"Mi fydd rhaid i ni gael mwy o ddiogelwch i barhau i ddod â stocyma. 'Da ni'n gwybod bod 'na broblem yma."

Cafodd beic cwad cwmni Neil Keeble hefyd ei ddwyn dros y penwythnos
Un arall a welodd un o'i feiciau yn cael ei ddwyn dros y penwythnos oedd Neil Keeble o gwmni KYMCO.
Yn debyg i Mr Ellis, fe ddaeth i'r sioe ddydd Gwener i osod ei stondin, ond erbyn dydd Sul fe gafodd wybod bod un o'i feiciau cwad wedi cael ei ddwyn.
"O gofio ein bod wedi gosod y stondin yr un fath am y bum mlynedd ddiwethaf, ro'n i wedi synnu," meddai.
"Ond mae'n codi cwestiwn beth mae'r diogelwch ar y maes yn gwneud i'r holl stondinwyr."
Ychwanegodd fod y digwyddiad yn ei wneud yn ansicr am ddychwelyd y flwyddyn nesaf.
"Rydych chi wastad yn conscious yng nghefn eich meddwl bod y math hyn o bethau am ddigwydd.
"Ond pan chi'n talu am stondin sy'n cynnwys diogelwch 24 awr yna mae'n rhaid i chi ddibynnu ar y trefnwyr."
'Mesurau diogelwch ychwanegol'
Dywedodd Sioe Frenhinol Cymru eu bod yn "ymwybodol o'r adroddiad o'r beiciau cwad wedi eu dwyn".
"Rydym yn rhannu'r rhwystredigaeth a'r pryder a gafodd ei achosi gan y digwyddiadau hyn, ac rydym yn cefnogi'r masnachwyr sydd wedi eu heffeithio a'r heddlu yn eu hymchwiliadau.
"Rydym wedi cyflwyno mesurau diogelwch ychwanegol ac wedi darparu arweiniad a chyngor pellach ar ddiogelwch i'r rhai sydd â stondinau.
"Rydym yn cymryd diogelwch o ddifrif mawr ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiadau hyn i gysylltu â'r heddlu."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd2 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
