'Rhwystredig' cael signal ffôn gwaethaf y DU mewn tref glan môr

Yn ôl Which?, Dinbych-y-pysgod yw'r lle gwaethaf yn y DU am signal ffôn
- Cyhoeddwyd
Heb os bydd miloedd yn heidio i dre' glan môr Dinbych-y-pysgod dros ŵyl y banc, ond faint o'r ymwelwyr fydd yn gallu cael signal ar eu ffôn symudol?
Yn 2025 cafodd cod post Dinbych-y-pysgod ei enwi fel y lle gwaethaf yn y Deyrnas Unedig o ran ansawdd signal ffôn symudol gan gwmni Which?.
Yn gynharach eleni, cafodd mast ffôn ei ddadgomisiynu yn yr ardal, ond nid yw wedi cael ei ailosod eto.
Mae cwmnïau Vodafone, Three ac O2 wedi ymddiheuro i gwsmeriaid sydd wedi eu heffeithio.
Yn ôl trigolion, mae'n "anodd" cael signal ffôn mor wael yn yr ardal
Yn ôl Guy Manning sy'n rhedeg siop gelf yn y dre', "dydy pobl ddim yn deall" pa mor rhwystredig yw hi i fusnesau.
"Mae'n anodd i fi achos dydy pobl ddim wastad eisiau 'ôl arian mas," meddai.
"Mae'n gallu bod yn anodd cymryd taliadau cerdyn achos y signal gwael."
Ychwanegodd ei fod yn poeni ei fod wedi colli cwsmeriaid oherwydd y problemau.
"Hoffwn i wella'r signal i bawb."

Mae Guy Manning yn poeni ei fod wedi colli cwsmeriaid oherwydd y problemau
Mae Roslyn Moore yn rhedeg llety gwyliau ar draeth y gogledd.
"Dwi wedi clywed bod busnesau yn y dre' yn eithaf upset am yr holl beth," meddai.
"Mae pobl methu talu ambell waith ar yr aps, neu talu am barcio achos mae hynny'n digwydd ar yr aps. Mae'n broblem fawr."
Dywedodd bod y dref yn ddibynnol ar dwristiaid adeg yma'r flwyddyn.
"Mae'n bwysig bod y busnesau yn cael y bobl mewn ac mae'n bwysig bod y bobl sy'n dod yma'n hapus. Mae angen sortio hwn mas."

Yn ôl Roslyn Moore mae'n "bwysig bod ymwelwyr yn hapus"
Yn ôl Which?, "dim ond 54.3% o'r amser y profodd defnyddwyr ffonau symudol gysylltiad da" yn Ninbych-y-pysgod.
Cafodd Llandrindod ei enwi fel yr ail god post gwaethaf o ran ansawdd signal ffôn, gyda sgôr o 54.8%.

Mae'r diffyg signal yn "rhwystredig" i ymwelwyr fel Julie Robinson a Paul Wiston
I'r rhai sy'n ymweld â'r dre' glan môr, mae'r diffyg signal yn "rhwystredig".
Dywedodd Paul Wiston o Congleton yn Sir Gaerleon y byddai'n "anodd" iddo ymweld â Dinbych-y-pysgod eto.
"Rwy'n hunangyflogedig felly does dim byd gwaeth pan dyw pobl methu cysylltu â chi.
"Alla i ddim hyd yn oed cael rhagolygon y tywydd i fyny. Dwi'n meddwl ei fod yn lle hyfryd ond signal ofnadwy.
"Wnaethon ni gerdded adref neithiwr oherwydd oedden ni methu ffonio tacsi."
Daeth Jo a Martin Harrison o Birmingham ag arian parod ychwanegol oherwydd eu bod nhw wedi clywed am broblemau gyda'r signal.
"Mae'n eithaf rhwystredig pan fydd angen i bobl gysylltu â chi a does gennych chi fynediad at y ffôn, ond dyw e ddim yn poeni ni."

Mae Frankie Bennet o Lundain yn falch i gael seibiant o'r sgrin
Mae eraill yn falch i gael seibiant o'u sgriniau.
"Dim ond am ychydig ddyddiau rydyn ni i ffwrdd beth bynnag, felly dydw i ddim yn tueddu i ddefnyddio fy ffôn cymaint", meddai Lynne Cornish o Gwm Rhondda.
Dywedodd Frankie Bennet o Lundain ei fod ef a'i bartner ar wyliau i gael seibiant o'u ffonau symudol.
"Rydyn ni wedi dod yma i ddianc rhag hynny i gyd, felly dydy hi ddim yn rhy ddrwg."
'Archwilio opsiynau dros dro'
Yn ôl Vodafone a Three, mae'r signal gwael o ganlyniad i ddadgomisiynu mast yn yr ardal.
Dywedon nhw: "Mae'n ddrwg gennym i gwsmeriaid Vodafone a Three UK yn ardal Dinbych-y-pysgod sy'n profi problemau gyda'u gwasanaeth.
"Rydym yn gweithio gyda'n partner seilwaith am ateb hir dymor ac yn archwilio opsiynau dros dro i helpu i adfer cysylltiad cyn gynted â phosibl."
Ychwanegodd llefarydd ar ran O2: "Rydym yn ymwybodol o'r problemau signal yn Ninbych-y-pysgod ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.
"Mae hyn oherwydd bod mast lleol yn yr ardal yn cael ei ddadgomisiynu.
"Mae ein partner seilwaith, Vodafone, sy'n rheoli'r safle, yn gweithio cyn gynted â phosibl i leoli a gosod un newydd.
"Mae mastiau eraill yn yr ardal wedi'u hoptimeiddio i helpu i leihau'r drafferth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr

- Cyhoeddwyd13 Medi 2024
