Pont y Borth wedi gorfod cau ar ôl i'r staff rheoli traffig gael eu 'sarhau'

- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Bont y Borth gau yr wythnos yma ar ôl i weithwyr rheoli traffig gael eu sarhau a'u haflonyddu gan aelod o'r cyhoedd, yn ôl y contractwr UK Highways.
Dywedon nhw fod swyddogion sy'n gweithio ar Bont y Borth yn aml yn cael eu sarhau, ond bod y digwyddiad diweddaraf ddydd Mawrth wedi rhoi lles a diogelwch staff mewn perygl.
Mae'r gweithwyr wedi dychwelyd a'r gwaith o adfer y bont yn parhau, ond dywedodd UK Highways os bydd mwy o ddigwyddiadau, y bydd y staff yn gadael eto a'r bont yn cau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "diogelwch a lles y gweithlu rheoli traffig yn hollbwysig".
'Anwybyddu cyfarwyddiadau'
Mewn datganiad dywedodd UK Highways A55 Ltd fod "cam-drin gweithwyr ar Bont y Borth wedi dod yn gyffredin yn ystod Cam 2 y rhaglen [gwaith atgyweirio], ond roedd y digwyddiad diweddaraf yn peryglu lles a diogelwch y gweithwyr, ac felly penderfynwyd atal y gwaith dros dro".
"Ein blaenoriaeth bob amser yw diogelwch a lles ein gweithlu a'n his-gontractwyr."
Dywedon nhw hefyd bod fideo o'r digwyddiad wedi cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ychwanegon nhw fod awgrymiadau nad ydy gweithwyr yn canolbwyntio drwy fod ar eu ffonau symudol yn "anghywir", gan ddweud eu bod angen defnyddio eu ffonau i gadarnhau pwysau cerbydau.
"Cafodd swyddogion rheoli traffig parhaol eu cyflwyno er mwyn mynd i'r afael â diffyg cydymffurfiaeth dro ar ôl tro â'r terfyn pwysau a hysbysebwyd o 7.5 tunnell ar Bont y Borth.
"Ond, mae gweithredwyr yn dibynnu ar gydweithrediad defnyddwyr y ffordd i ddilyn eu cyfarwyddiadau a pharchu'r terfyn pwysau.
"Ar sawl achlysur mae cerbydau wedi anwybyddu cyfarwyddiadau gweithredwyr ac wedi croesi'r bont beth bynnag."
Ychwanegon nhw fod angen cynnal asesiad i unrhyw ddifrod ar ôl i gerbyd sy'n rhy drwm groesi a bod gorfod cau y bont "dro ar ôl tro yn cael effaith anochel" ar y gwaith o adfer y bont ac yn arwain at "gostau ychwanegol".
Gwaith atgyweirio Pont y Borth i barhau tan y gwanwyn 2027
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
Pont y Borth i gau yn llwyr eto am 28 awr i ddiogelu ceblau
- Cyhoeddwyd15 Mai
Roedd swyddogion rheoli traffig yn ôl ar y safle ddydd Mercher, ond mae'r contractwr yn pwysleisio os bydd mwy o ddigwyddiadau, y bydd y staff yn gadael, y bont yn cau, a'r digwyddiad yn cael ei gyfeirio at yr heddlu.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ddydd Mercher: "Yn dilyn digwyddiad ddoe [dydd Mawrth] a oedd yn ymwneud ag aelod o'r cyhoedd a gweithwyr rheoli traffig sy'n gweithredu'r cyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell ar Bont y Borth, tynnwyd y gweithwyr yn ôl o'r safle er mwyn diogelu eu lles.
"Bydd y gweithwyr yn dychwelyd i'r safle heddiw.
"Arhosodd y bont ar agor neithiwr [nos Fawrth], gyda chydymffurfiaeth yn cael ei monitro o bell drwy ddefnyddio CCTV yn yr ardal."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.