Achub pump ar ôl i badlfyrddwyr gael eu chwythu oddi ar draeth yng Ngwynedd

Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw i'r digwyddiad ar draeth Llandanwg, i'r de o Harlech, am 16:15 ddydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar padlfyrddiwr, gan gynnwys plentyn wyth oed, wedi cael eu hachub ar ôl i wyntoedd cryfion eu chwythu oddi ar draeth yng Ngwynedd.
Cafodd aelod o'r cyhoedd a aeth i'r môr i geisio helpu'r padlfyrddwyr hefyd ei achub yn ddiweddarach.
Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw i'r digwyddiad ar draeth Llandanwg, i'r de o Harlech, am 16:15 ddydd Iau.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau Caergybi fod aelod o'r teulu ar y lan yn pryderu am eu diogelwch ac wedi ffonio 999.

Cafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau o Gaernarfon ei alw i'r digwyddiad
Roedd timau achub Gwylwyr y Glannau Y Bermo a Chricieth yn ogystal â hofrennydd Gwylwyr y Glannau o Gaernarfon yn rhan o'r ymdrechion i achub y pump.
Dywedodd RNLI Cricieth fod un o'r padlfyrddwyr yn y dŵr ac yn "dioddef yn ddifrifol o effeithiau'r oerfel".
Roedd y lleill yn dal gafael ar un o'r byrddau padlo yn bell oddi ar y lan.

Llwyddodd criw'r bad achub i achub y pum person yn ddiogel cyn eu trosglwyddo i ofal y Gwasanaeth Ambiwlans.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.