Y Senedd wedi methu â chydymffurfio gyda'i chynllun ieithoedd swyddogol

SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y penderfyniad yn "ddigynsail" medd Comisiwn y Senedd

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Senedd Cymru fethu â chydymffurfio gyda'i chynllun ieithoedd swyddogol ei hun am chwe wythnos tan ganol mis Ionawr 2026.

Dywed ei adroddiad blynyddol "yn anffodus, tua diwedd 2025, ac wedi ystyriaeth fanwl o sawl mater, gan gynnwys llesiant staff, gwnaed penderfyniad digynsail i beidio â chydymffurfio â gofynion y cynllun".

Oherwydd y penderfyniad, "darparwyd dogfennau briffio mewnol i aelodau pwyllgorau yn Saesneg yn unig, gan ddarparu fersiwn dwyieithog o'r cwestiynau yn unig".

Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod canran y cyfraniadau yn Gymraeg mewn cyfarfodydd pwyllgorau Senedd Cymru wedi gostwng i 8% yn 2025-26, y flwyddyn cyn yr etholiad ym mis Mai eleni.

Mae hynny'n cymharu â 9% yn 2024-25.

Fe wnaeth canran y cyfraniadau Cymraeg mewn cyfarfodydd llawn - pan mae'r holl ASau yn cwrdd yn siambr y Senedd - godi i 31% o 29%.

Pam wnaed y penderfyniad?

Gwnaed y penderfyniad i beidio â chydymffurfio â gofynion y cynllun ieithoedd swyddogol, medd yr adroddiad, ar sail nifer o ffactorau gan gynnwys:

  • absenoldeb staff nad oedd modd ei osgoi;

  • nifer uchel o filiau yr oedd angen iddynt gwblhau eu taith drwy'r Senedd cyn yr etholiad;

  • cynnydd sylweddol iawn yn nifer y ceisiadau o du'r gyfarwyddiaeth fusnes gyda therfyn amser cyfyngedig iawn ar gyfer darparu cyfieithiadau;

  • y ffaith nad yw'r dogfennau hyn yn cael eu dosbarthu yn eang, ac nad ydynt o ddefnydd unwaith y bydd y cyfarfod pwyllgor wedi digwydd oherwydd bydd dogfen briffio newydd yn cael ei pharatoi ar gyfer y cyfarfod nesaf;

  • diffyg capasiti ymysg y cwmnïau cyfieithu allanol sy'n rhan o'r contract yn ôl y galw.

Wrth gynllunio ar gyfer gwaith y seithfed Senedd, a ddechreuodd ar ôl yr etholiad ym mis Mai, dywed yr adroddiad bod y gwasanaeth cyfieithu a chofnodi wedi "dechrau rhoi mesurau yn eu lle i liniaru'r risg o ran achos arall o fethu a darparu gwasanaeth cyfieithu testun yn y dyfodol".

'Angen i'r Senedd ddod o dan y Safonau Iaith'

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ailadrodd eu galwad ar i Senedd Cymru ddod o dan Safonau'r Gymraeg.

Dywedodd Aled Thomas o'r mudiad: "Y cadarnhad fod y corff sy'n darparu gwasanaethau i'n Senedd genedlaethol wedi gwneud penderfyniad bwriadus i beidio cydymffurfio â'i Gynllun Ieithoedd Swyddogol statudol yn y Senedd ddiwethaf yw'r prawf diweddaraf nad yw trefniadau unigryw'r Ddeddf Ieithoedd Swyddogol yn addas i'r diben.

"Fyddai dim un corff o dan safonau'r Gymraeg - fel y mae gweddill ein sector cyhoeddus - wedi gallu ymddwyn yn y ffordd yma heb y modd i'w dwyn i gyfrif.

"Byddwn yn ceisio cyfarfod ar frys gyda Llywydd y Senedd i gael cadarnhad o amserlen a chamau nesaf yr adolygiad o'r fframwaith cyfreithiol - adolygiad y mae'n rhaid iddo arwain at osod y Senedd o dan Safonau a Mesur y Gymraeg 2011, gan sefydlu hawliau mae modd eu gorfodi."

Ynghylch canran y cyfraniadau yn Gymraeg mewn cyfarfodydd, dywedodd Comisiwn y Senedd - sy'n rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd - "byddwn yn parhau gyda'n hymdrechion i sicrhau bod Aelodau ac eraill sy'n cymryd rhan mewn trafodion yn ymwybodol o'u hawl i ddefnyddio'u dewis iaith mewn trafodion, ac yn hyderus i wneud hynny.

"Yn ogystal byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau megis hyfforddiant wedi'i deilwra i'r Aelodau sy'n dysgu Cymraeg, dogfennau briffio dwyieithog a geirfaoedd."

Dywed hefyd bod nifer o faterion allanol yn effeithio ar ganran y cyfraniadau yn Gymraeg gan gynnwys "dewis iaith tystion sy'n rhoi tystiolaeth i bwyllgorau, a natur lai strwythuredig y trafodaethau mewn cyfarfodydd pwyllgorau".

Tra bod cyfraniadau Aelodau o'r Senedd mewn cyfarfodydd llawn yn cael eu cyfieithu ar gyfer cofnod y Senedd, mae trawsgrifiadau o'r pwyllgorau yn cynnwys cyfieithu Cymraeg i Saesneg yn unig.​

'Clustffonau yn rhwystr'

Fis Mawrth 2026, cyhoeddodd fforwm y cadeiryddion ei adroddiad o effeithiolrwydd pwyllgorau yn y chweched Senedd.

Nododd tystiolaeth, "er bod gwasanaethau cyfieithu o safon uchel, nad yw'r profiad o gymryd rhan yn y Gymraeg bob amser gyfwerth â chymryd rhan yn Saesneg".

"Yn benodol, amlygwyd y ddibyniaeth ar glustffonau ar gyfer cyfieithu ar y pryd fel rhwystr i rai cyfranogwyr."

Felly mynegodd y fforwm gefnogaeth i gamau a allai gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn trafodion pwyllgor.

Yn unol ag argymhelliad y fforwm, dywed Comisiwn y Senedd ei fod yn "archwilio opsiynau ar gyfer gwella'r dechnoleg sy'n cefnogi cyfieithu ar y pryd".

Dywed hefyd eu bod yn "benderfynol o barhau i arwain y ffordd fel deddfwrfa cwbl ddwyieithog".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.