Chwilio am denant i gadw 'llygad barcud' ar Dŷ Mawr Wybrnant

Glan yr Afon a Thŷ Mawr WybrnantFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Mike Henton
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i berchnogion Glan yr Afon (ar y dde) gadw llygad ar Dŷ Mawr Wybrnant (chwith)

  • Cyhoeddwyd

Ydych chi awydd bod yng ngofal un o gartrefi mwyaf hanesyddol Cymru?

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn chwilio am rywun i gadw "llygad barcud" ar Dŷ Mawr Wybrnant yng Nghonwy.

Maen nhw'n gwahodd ceisiadau am denant newydd i fyw yng Nglan yr Afon - ffermdy sy'n ffinio â Thŷ Mawr Wybrnant - a fydd yn costio £700 y mis.

Tŷ Mawr Wybrnant oedd man geni'r Esgob William Morgan, a gyfieithodd y Beibl i'r Gymraeg yn 1588 - rôl hanfodol wrth ddiogelu'r iaith.

Heddiw, mae Tŷ Mawr Wybrnant yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae pobl o bob cwr o'r byd yn ymweld ag ef.

Glan yr AfonFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Mike Henton
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan y ffermdy dair ystafell wely, cegin ac ystafell fyw ar wahân, a gardd breifat

Mae'r ymddiriedolaeth yn chwilio am denant a fydd yn gwneud Glan yr Afon yn gartref iddyn nhw tra hefyd yn "helpu i ddarparu presenoldeb lleol anffurfiol a chadw llygaid barcud ar Dŷ Mawr Wybrnant".

Dywedodd Ceri Williams o Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru fod hwn yn "gyfle unigryw i fyw ochr yn ochr ag un o'r tai hanesyddol pwysicaf yng Nghymru".

"Rydym yn chwilio am rywun sy'n gwerthfawrogi cymeriad arbennig y lleoliad ac a all ein helpu i ofalu am Dŷ Mawr Wybrnant trwy fod yn gymydog cyfrifol a chefnogol," meddai.

Mae'r denantiaeth yn rhan o ymrwymiad ehangach Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i ofalu am leoedd hanesyddol trwy gysylltiadau lleol cryf.

Mae'r ffermdy yn cynnig tair ystafell wely, cegin ac ystafell fyw ar wahân, a gardd breifat, gan ddarparu "byw gwledig o fewn lleoliad hanesyddol dwfn".

Mae'r eiddo ar gael am £700 y mis

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.