Adam yn yr Ardd yn ffarwelio â'r lle wnaeth 'newid fy mywyd'

Adam
Disgrifiad o’r llun,

Adam Jones yw cyfarwyddwr garddwriaeth y Sioe Frenhinol yr wythnos yma

GanAnnell Dyfri
BBC Cymru FywYn gohebu oSioe Frenhinol Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae un o arddwyr amlycaf Cymru yn ffarwelio â'r ardd wnaeth "newid fy mywyd".

Mae Adam Jones, neu Adam yn yr Ardd fel mae'n cael ei adnabod gan nifer, wedi trawsnewid ei fywyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Er iddo ddweud bod "garddio wedi bod yn rhan o fy mywyd erioed", fe adawodd ei swydd llawn amser i fod yn arddwr wedi'r cyfnod clo.

Ef yw cyfarwyddwr garddwriaeth y Sioe Frenhinol yr wythnos yma, a'i obaith yw "tynnu pobl o bob cefndir" i arddio.

'Garddio wastad wedi bod yna'

Glaw neu hindda, mae Adam allan yn yr ardd ac wedi creu gardd arbennig yn ei dŷ presennol.

Mae o'r farn bod garddio ac ymwneud â natur yn gallu bod yn llesol i bawb.

"Ma' garddio wastad wedi bod yna, pan ma' bywyd yn mynd yn drwm, ti'n delio gyda rhyw broblem, a hanner awr yn yr ardd a ti'n teimlo lot ysgafnach," meddai.

Erbyn hyn mae'n cynnal gweithdai, yn mynd i ysgolion gwahanol ac yn gweithio gyda "phobl gyda phroblemau ymddygiad, iechyd meddwl, a galar", gan ddweud bod garddio yn gallu gwella safon byw pawb.

Yr ArddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam wedi creu gardd arbennig yn ei gartref presennol

Mae wedi denu cynulleidfa eang i'w dudalen Instagram, sydd bellach â dros 27,000 o ddilynwyr.

Mae'n rhannu cyngor, lluniau a fideos am ei ardd ar y cyfrif, ac mae erbyn hyn wedi casglu cymuned ynghyd ar-lein.

Ond mae'n amser ffarwelio â'r ardd honno erbyn hyn, am ei fod yn symud tŷ.

"Mae'n brofiad chwerwfelys," meddai, ond dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at ei "ardd am byth".

"Dyma le fi am fod am weddill fy mywyd," meddai.

'Dyma Eisteddfod y garddwr'

Ag yntau yn brysur yr wythnos yma fel cyfarwyddwr garddwriaeth y sioe, mae Adam yn awyddus i annog mwy o bobl nag erioed i droi at arddio.

Dywedodd bod "diddordeb y to iau yn solet", ac mae hynny yn galondid mawr iddo, gyda "chynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n cystadlu" eleni.

Mae Adam o'r farn mai "Cymru yw un o'r llefydd gorau" i arddio ac i dyfu planhigion a llysiau, ac eisiau gweld mwy yn garddio.

"Hwn yw'r unig sioe Garddwriaeth Gymreig Genedlaethol," meddai, ac o ganlyniad mae'n dweud mai dyma'r lle i annog pobl.

"Dyma yw Eisteddfod y garddwr i bob pwrpas!"

AdamFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam o'r farn mai "Cymru yw un o'r llefydd gorau" i arddio

Ond er bod y trefniadau yn eu lle ar gyfer y sioe, mae un peth yn ei boeni - y tywydd.

"Does dim adran sy'n cael ei effeithio mwy na'r arddwriaeth pan mae'n dod i'r tywydd.

"Ry'n ni wedi gorfod addasu ambell beth, ma' 'da ni gynlluniau bod digon o ddŵr, a phobl i ddyfrio, ma' hwnna yn bach o stress."

'Cyffro yn mogi'r nerfau'

Wrth edrych ymlaen at ei ardd newydd, dywedodd ei fod am "ruthro dim".

"Mae'r ardd yma yn mynd i fod yn ardd am byth."

Ond er yr edrych ymlaen, dywedodd ei fod "'chydig yn nerfus" hefyd.

"Fy ngardd yw fy hygrededd i, fy CV.

"Mae sefydlu'r ardd newydd yn ansicr ond mae'r cyffro yn mogi hynny."

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at "ffordd o fyw gwahanol, mwy gwledig, bach mwy o le, a 'na'r fath o fywyd ni eisiau magu plant."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol