Creu swyddi newydd wrth i gwmni bwyd o'r gogledd ehangu

Cafodd y cwmni teuluol ei sefydlu yn Harlech yn 1972
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni bwyd yng ngogledd Cymru yn gobeithio creu 50 o swyddi newydd ar ôl ehangu'r busnes ymhellach yng Nghymru a thu hwnt i Glawdd Offa.
Bwriad busnes teuluol Cwmni Bwyd Harlech yw gwario £3.5m ar ehangu ei bencadlys yn Llanystumdwy ger Cricieth a chyflogi mwy o staff.
Mae gan y cwmni hefyd ganolfannau yng Nghaer, Caerfyrddin, Caerffili a Telford.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Mark Lawton: "Rydym wedi creu 48 o swyddi newydd dros y 18 mis diwethaf a'r bwriad yw creu 50 yn fwy o swyddi yn fuan."
Bryn Williams yn dod â chynnyrch gogledd Cymru i Wimbledon
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf
Y siop chips Gymreig yn Arizona
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf
Cafodd cwmni bwyd Harlech ei sefydlu yn nhref Harlech yn 1972 gan Colin a Gill Foskett.
Y bwriad gwreiddiol oedd cyflenwi'r farchnad wyliau ond yn y blynyddoedd diwethaf mae'r cwmni wedi ehangu gan gyflenwi tai bwyta, tafarndai, ysgolion ac ysbytai ledled Cymru a rhai yn Lloegr.
Erbyn hyn mae plant y sylfaenwyr yn rhedeg y busnes.
Wrth i'r busnes dyfu mae'r cwmni yn bwriadu gwario £3.5m ar ehangu eu pencadlys yn Llanystumdwy, gan gynnwys adeiladu warws newydd, cyfleusterau rhewi bwyd a mwy o gerbydau dosbarthu.
Roedd yna 25% o gynnydd yn nhrosiant y cwmni y llynedd wrth iddyn nhw gael y gwerthiant uchaf erioed - £75m.
O ganlyniad, mae disgwyl i nifer y staff o fewn y cwmni godi o 320 i 370 yn ystod blynyddoedd nesaf.
Y nod o hyd yw cefnogi cynnyrch a chyflenwyr Cymreig.

Fe wnaeth yr aelod Seneddol lleol Liz Saville Roberts ymweld â'r cwmni yn ddiweddar
"Er y twf yma, nid ydym wedi anghofio ein gwreiddiau. Mae twristiaeth a lletygarwch yn parhau i fod yn rhannau hanfodol o'r busnes," medd y rheolwr gyfarwyddwr.
"Rydym wedi creu 48 o swyddi newydd dros y 18 mis diwethaf ac mae cyfanswm ein staff bellach yn 320 - mae'r rhain yn swyddi llawn amser ar hyd y flwyddyn, sy'n bwysig iawn mewn ardal wledig fel gogledd orllewin Cymru ac rydym yn dal i recriwtio."