Elfyn Evans yn ennill Rali Japan ac ymestyn y bwlch ar frig y tabl

Elfyn Evans (dde) a'r cyd-yrrwr, Scott MartinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Elfyn Evans (dde) a'r cyd-yrrwr, Scott Martin

  • Cyhoeddwyd

Mae Elfyn Evans wedi ennill Rali Japan am y trydydd gwaith mewn pedair blynedd, i ymestyn ei fwlch ar frig tabl y byd.

Gorffennodd Evans, sy'n 37 oed, 12.8 eiliad o flaen pencampwr y llynedd - Sebastien Ogier, gyda Sami Pajari 51.4 eiliad yn hwyrach ac yn drydydd.

Dywedodd Elfyn Evans ei fod yn "benwythnos gwych", gan ganmol perfformiad y car.

Wrth gael ei holi am y bwlch ar frig pencampwriaeth y byd, dywedodd nad oedd yn siŵr a bod "ffordd bell i fynd ac mae hi'n rhy gynnar i siarad am hynny".

"Mae'n rhaid i ni fwynhau hon rŵan," meddai.

Toyota GR Yaris Rally1Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n gyrru Toyota GR Yaris Rally1

Canlyniad

1. Elfyn Evans (Cymru), Toyota, tair awr, 17 munud, 8 eiliad

2. Sebastien Ogier (Ffrainc), Toyota, +12.8eiliad

3. Sami Pajari (Finland), Toyota, +51.4eiliad

4. Takamoto Katsuta (Japan), Toyota, +1munud 03.5eiliad

5. Adrien Fourmaux (Ffrainc), Hyundai, +2munud 34.8eiliad

6. Thierry Neuville (Gwlad Belg), Hyundai, +3munud 13.6eiliad

7. Haydon Paddon (Seland Newydd), Hyundai, +4munud 44.8eiliad

8. Jon Armstrong (Iwerddon) Ford +5munud 45.2eiliad

10. Josh McErlean (Iwerddon) Ford, +9munud 23.0eiliad

21. Oliver Solberg (Sweden), Toyota, +49munud 43.6eiliad

Tabl y byd

1. Elfyn Evans (Cymru), Toyota, 151 pwynt

2. Takamoto Katsuta (Japan), Toyota, 131 pwynt

3. Oliver Solberg (Sweden), Toyota, 102 pwynt

4. Sami Pajari (Finland), Toyota, 96 pwynt

5. Sebastien Ogier (Ffrainc), Toyota, 90 pwynt

6. Adrien Fourmaux (Ffrainc), Hyundai, 89 pwynt

7. Thierry Neuville (Gwlad Belg), Hyundai, 73 pwynt

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig