Dyn wedi'i gyhuddo o drywanu bachgen 17 oed yn Y Barri

Collodd bachgen 17 oed ei goes ar ôl cael ei drywanu ar Ynys y Barri fis Mai
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 18 oed o Gaerdydd wedi cael ei gyhuddo o anafu bwriadol yn dilyn achos o drywanu yn Y Barri ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.
Bu rhaid i fachgen 17 oed fynd i'r ysbyty ar ôl cael ei drywanu yn ei goes ar 25 Mai. Dywedodd Heddlu De Cymru ei fod wedi colli ei goes yn sgil yr ymosodiad a'i fod yn cael gofal dwys yn yr Ysbyty Athrofaol.
Mae Idris Ahmed o ardal Glan yr afon y brifddinas, wedi cael ei gyhuddo o drywanu yn fwriadol ac o fod ag arf miniog yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Mi fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd sadwrn 6 Mehefin.
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.