Anrhydeddu dynes 104 oed sy'n parhau i fynd i'r capel

Annabelle Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Annabelle Thomas newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 104

GanSara Down-Roberts
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae haf 2026 wedi bod yn un arbennig i Annabelle Thomas o Gefngorwydd ym Mhowys wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 104 a chael ei hanrhydeddu gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru am ei chyfraniad hir fel blaenores yn y capel lleol.

Cafodd Mrs Thomas ei geni yn 1922 - yr un flwyddyn ag y sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru.

Mae Cefngorwydd yn bentref yng nghymuned Llangamarch - heb fod ymhell o dair tref arall oedd yn enwog am eu ffynhonnau iacháu sef Llandrindod, Llanwrtyd a Llanfair-ym-Muallt.

Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg yr wythnos hon ar Radio Cymru dywed ei bod yn hynod o falch ei bod yn gallu parhau i fod yn rhan o sawl gweithgaredd yn yr ardal - gan gynnwys mynychu capel Gosen.

Mae Annabelle Thomas wedi bod yn mynydd capel Gosen gydol ei hoes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Annabelle Thomas wedi mynychu capel Gosen gydol ei hoes

Ers yn blentyn mae'r capel yng Nghefngorwydd wedi bod yn bwysig i Annabelle Thomas a braint iddi oedd yn ddiweddarach cael ei hethol yn flaenores yno.

Bellach hi yw'r unig aelod o'r capel sy'n mynychu'n rheolaidd.

"Wi'n cofio mynd i'r capel, bwti pump oed falle, gyda'r teulu - a'r Ysgol Sul, wrth gwrs a'r cwrdd nos. Dyna oedd y man cymdeithasu gan bod unlle arall i fynd," meddai.

"Fi'n joio pregeth - o'dd pregethau da iawn slawer dydd. Roedd lot yn dechre yn dawel, dawel ac fel o'n nhw'n mynd mlan o'n nhw'n mynd i hwyl.

"Un felly oedd y Parchedig Philip Jones - o'dd e'n bregethwr enwog. Fi'n cofio ei glywed yn Llanwrtyd. O'dd tipyn o theatr a sŵn gydag e wrth draddodi.

"Wi'n cofio hefyd y gymanfa yma - y plant yn cael eu holi yn y bore, ac yn y pnawn yr oedolion yn cael eu holi o'r ysgrythur. Roedden nhw'n arguo a ddim yn cytuno wastad ac yna yn y nos y gymanfa ganu.

"Cofio hefyd mynd lawr i'r lake - y llyn yn Llanwrtyd - wedi'r cwrdd nos. Fanno oedd y man cyfarfod ac ro'dd 'na lot o sbort."

Epynt
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mynydd Epynt yn agos i gartref Annabelle Thomas yng Nghefngorwydd

Adeg dechrau'r Ail Ryfel Byd roedd Annabelle Thomas yn 17.

Dywed na chafodd y rhyfel effaith ofnadwy ar yr ardal gan ei bod yn ardal amaethyddol, ond a hithau wedi'i magu ar droed yr Epynt mae'n cofio'n glir effaith troi erwau o'r mynydd yn faes tanio i'r fyddin.

"Fe ga'th 52 o gartrefi eu 'whalu ac ro'dd rhaid i'r rhai o'dd yn byw yn y llefydd 'ma ffindio cartref newydd mewn tri mis.

"A'th 'na dir wrthon ni o'r top. Fi'n cofio un menyw yn cloi'r drws, gadawodd hi'r allwedd yn y drws a 'drychodd hi ddim nôl.

"O ran y rhyfel ei hun a'r 1930au ro'dd hi'n amser caled ond roedden ni dipyn yn well ein byd na llawer gan bo ni'n gallu 'neud bwyd ein hunain ar y ffarm - fydden ni'n 'neud bara a menyn a byddai'r diwrnod lladd mochyn yn ddiwrnod mawr."

Mae Annabelle Thomas yn parhau i fyw ar ben ei hun yn ei bwthyn yng Nghefngorwydd.

Ar hyd y blynyddoedd mae eisteddfod leol Llanwrtyd a'r ganolfan dreftadaeth yn y dref wedi bod yn hynod o bwysyg iddi.

"Mae'r ardal yn Seisnigo," meddai, wrth ymhyfrydu ei bod hi'n gallu parhau i fyw ei bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Mrs Thomas yn un o nifer o flaenoriaid sydd wedi derbyn medal gan Henaduriaeth y De yn ddiweddar i gydnabod blynyddoedd o wasanaeth yn y capel.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig