Dyn wedi'i gyhuddo o dreisio ger Eisteddfod Boduan yn 'gwadu bob dim'

Mae Emlyn Jones (uchod yn gadael y llys ddydd Llun) yn gwadu pob cyhuddiad yn ei erbyn
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae cynnwys yn yr erthygl isod all beri gofid.
Mae dyn o Ddyffryn Conwy sydd wedi'i gyhuddo o dreisio dynes ar ôl ei chyfarfod yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn 2023 wedi dweud ei fod yn gwadu pob cyhuddiad yn ei erbyn.
Mae Emlyn Jones yn wynebu pedwar cyhuddiad gan gynnwys ymosodiad rhyw, crogi bwriadol a threisio.
Dechreuodd achos yr amddiffyniad brynhawn Mercher, gyda Mr Jones yn cyflwyno ei hun i'r rheithgor fel ffarmwr o Gapel Curig, yn byw ar fferm gyda'i gariad a phlant.
Nodwyd ei fod yn cystadlu yn aml mewn cystadlaethau cneifio cyflym, ac yn chwarae rygbi i dîm Nant Conwy.
Yn ystod cyfnod yr Eisteddfod, roedd Emlyn Jones mewn perthynas hir dymor.
Pan ofynnodd yr erlyniad iddo a oedd yn deall y cyhuddiadau yn ei erbyn, dywedodd: "Dwi'n gwadu bob dim a'r unig beth dwi wedi bod yn euog o ydy twyllo fy nghariad ar y pryd drwy gael rhyw efo rhywun arall."
'Hwyliau da ar bawb'
Eglurodd fod ei berthynas wedi dod i ben yn ystod wythnos yr Eisteddfod am ei fod o wedi ei thwyllo.
Cyrhaeddodd Emlyn Jones a'i ffrindiau yr Eisteddfod ar 6 Awst, gan dreulio'r noson yn gwylio Bwncath ar lwyfan y maes a chymdeithasu.
Bu ffrae rhyngddo fo a'i gariad am ei bod hi wedi colli ei ffôn.
"Doedd o ddim byd mawr a dweud y gwir," meddai Mr Jones.
Ar ôl gig Bwncath, aeth i gyfeiriad y fynedfa, ac yn y fan honno fe welodd ei ffrind gyda'r ddynes sydd wedi ei gyhuddo o'i threisio.
Esboniodd fod ei gariad wedi colli ei ffôn ac nad oedd yn gallu dod o hyd iddi.
Mae Mr Jones yn honni fod y ddynes wedi dweud wrtho: "Paid poeni... gei di aros 'efo ni yn y garafán."
Esboniodd fod y tri wedi cerdded gyda'i gilydd o faes yr Eisteddfod i chwilio am y garafán oedd ar safle Cae Mawr gerllaw.
Roedd "hwyliau da ar bawb", meddai.
Llys yn clywed honiadau dynes o gael ei threisio ger Eisteddfod Boduan
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Dyn yn gwadu treisio dynes ger maes Eisteddfod Boduan yn 2023
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Ar ôl dod o hyd i'r garafán, aeth y tri i mewn i'r adlen ac yna i'r babell fach.
"Doedd 'na ddim trefniadau rili, dwi jest yn cofio ni'n mynd i mewn i'r dent," meddai Mr Jones.
"O'n i'n gwisgo jeans, t-shirt a chôt, os dwi'n cofio yn iawn.
"O'n i ochr chwith, hi yn y canol, [y dyn arall] ar y dde."
Gofynnodd y bargyfreithiwr Caroline Reese KC a oedd ganddo ddisgwyliadau wrth orwedd wrth ochr y ddynes?
"Doeddwn i ddim yn disgwyl dim byd, na," atebodd.
Wedi tua 10 munud esboniodd fod y ddynes wedi troi i'w wynebu: "A dyma'r ddau ohonan ni yn dechrau cusanu a twtchiad ein gilydd."
"Oedd y ddynes yn cytuno?" gofynnodd yr erlyniad.
"Ro'dd hi'n cusanu fi yn ôl," atebodd.
"Ac oedd hi wedi deffro?"
"Oedd yn bendant," meddai Emlyn Jones.
'Dim awgrym nad oedd hi isio'
Aeth ymlaen i esbonio fod ei ffrind wedi dechrau gweiddi ar y ddau.
"Dwi'n cofio fo'n d'eud: 'Be' **** ti'n neud, mae gen ti gariad, ti ddim yn haeddu dy gariad'."
Fe gododd ei ffrind a gadael yr adlen.
"'Naeth y ddynes godi i ista' i fynd a trio calmio fo lawr," meddai Emlyn Jones.
Yna fe adawodd y ddynes y babell i ddilyn y dyn arall, cyn dod yn ôl "i'r babell ata' fi".
Dwedodd Emlyn Jones na fu unrhyw siarad rhyngddyn nhw: "Natho' ni ddechrau cusanu eto."
"Oedd y ddynes yn consentio i'r cusanu?" gofynnodd yr erlyniad.
"Oedd, 'swn i'n dd'eud," meddai Mr Jones.
Aeth yn ei flaen i ddweud fod y ddynes wedi ei gyffwrdd rhwng ei goesau, a'i fod yntau wedi rhoi ei law "lawr ei throwsus hi".
"'Naeth hi ddim d'eud wrtha' fi beidio. Doedd 'na ddim awgrym nad oedd hi isio.
"O'dd hi'n 'neud sŵn mwynhau."

Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Caernarfon
Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad wrth Mr Jones fod y ddynes wedi rhoi tystiolaeth yn dweud ei bod hi wedi gofyn iddo stopio.
"'Naeth hi ddeud 'paid'?" gofynnodd.
"Naddo, dim o gwbl," atebodd Emlyn Jones.
Ychwanegodd eu bod wedi mynd ymlaen i gael rhyw.
"Oedd yna unrhyw awgrym ei bod hi'n protestio?" gofynnodd yr erlyniad.
"Nagoedd, ac os fasa hi wedi, faswn i byth wedi 'neud," meddai Mr Jones.
"Ar ôl cael rhyw am ychydig, 'nes i ofyn iddi droi ar ei chefn. 'Naeth hi droi ar ei chefn."
Ar ôl gorffen cael rhyw, "'nes i fynd oddi wrthi a rhoi 'nhrowsus i 'nôl".
'Tydw i ddim yn euog'
Wedi hynny, clywodd y llys fod y ddynes wedi dweud wrth Emlyn Jones: "Be' 'da ni newydd neud?"
Esboniodd Mr Jones wrth y llys fod y ddynes wedi mynd i'r car, a'i fod yn teimlo yn "euog uffernol".
"Jest cyn i fi adael 'nes i gnocio ar y car a d'eud: 'Sori, ddyla' hyn erioed wedi digwydd'."
Dywedodd Emlyn Jones wrth y llys fod y ddynes wedi dweud wrtho: "Paid â phoeni 'na i ddim d'eud wrth neb."
"Doedd y car ddim wedi cloi," meddai Mr Jones.
Aeth yn ei flaen i chwilio am ei pick-up a chysgu gweddill y noson yn fanno. Roedd y dyn arall yno hefyd.
Wrth ei holi eto am y cyhuddiadau yn ei erbyn, dywedodd Emlyn Jones fod "popeth wedi ei consentio".
"Tasa hi wedi dweud 'na' ar unrhyw adeg - faswn i ddim wedi 'neud," meddai.
"Tydw i ddim yn euog."
Mae'r achos yn parhau.
Y ddynes yn 'dweud celwydd'
Yn ddiweddarach fe gafodd y bargyfreithiwr Sion ap Mihangel gyfle i groesholi'r diffynnydd ar ran yr erlyniad.
Wrth drafod y troseddau honedig, fe wadodd Emlyn Jones yn bendant pob un, gan ddweud bod y ddynes yn "dweud celwydd".
Cyfaddefodd ei fod wedi bod yn yfed alcohol ar y noson, a bod hynny wedi cael effaith o bosib arno, ond fod "pawb mewn hwylia' da".
Esboniodd ei fod yn cofio'r rhan fwyaf o'r noson heb law am gyfnod ar y maes pan oedd wedi ffraeo gyda'i gariad.
"Felly mae yna ran o'r noson nad ydych chi yn eglur?" gofynnodd Mr ap Mihangel.
"Oes, siŵr braidd," atebodd.
Yn ystod y croesholi bu trafodaeth am yr hyn a ddigwyddodd yn y babell.
"Oeddach chi yn ei ffansio hi?" gofynnodd yr erlynydd.
"Oeddwn ar y pryd mae siŵr," atebodd Mr Jones.
Wrth ofyn sut oedd y diffynnydd yn gwybod bod y ddynes yn rhoi ei chaniatâd, atebodd: "O'dd hi'n cusanu fi yn ôl."

Clywodd y llys i'r ddynes gwrdd ag Emlyn Jones ar faes yr Eisteddfod yn Awst 2023
Wrth symud ymlaen i sôn am y cyfnod yr aeth y ddynes i'r car, a hithau yn honni fod Emlyn Jones wedi dweud "sori", gofynnodd Sion ap Mihangel: "Ymddiheuro am gymryd mantais ohoni 'naethoch chi, ynde?"
"Nage," atebodd y diffynnydd.
"Ti'n deud celwydd am be ddigwyddodd dwyt?"
"Nadw."
"Nes ti ei thagu hi?"
"Naddo, dim o gwbl. 'Swn i'm yn 'neud hynny."
"Nes ti ei threisio hi yndo?"
"Naddo."
"Nes ti golli dy dymer di yndo?"
"Faswn i ddim yn gwneud ffasiwn beth," atebodd Emlyn Jones.
'Ypset a blin'
Yn ddiweddarach brynhawn Mercher bu'r dyn arall oedd yn yr adlen y noson honno yn rhoi tystiolaeth i'r llys, gan ddweud ei fod wedi 'nabod Emlyn Jones ers blynyddoedd.
Aethon nhw i weld Bwncath yn perfformio, meddai, a threulio'r noson yn cymdeithasu.
Dywedodd ei fod wedi cwrdd â'r ddynes yn ystod y gig a'u bod wedi "bachu ar y maes".
Wrth adael y maes ar ddiwedd y noson, dywedodd bod y ddynes wedi "cynnig i fi fynd yn ôl i'r garafán efo hi", a'i fod wedi gobeithio "mynd efo hi" y noson honno.
Wrth chwilio am y garafán de ddaethon nhw ar draws Emlyn Jones, oedd yn "ypset a blin am fod o wedi ffraeo efo'i gariad".
Mae'r tyst yn dweud ei fod yn cofio gweld y ddynes yn dweud wrth Emlyn Jones gyda'i braich amdano: "Fydd bob dim yn iawn."
Aeth y ffrind yn ei flaen i egluro fod y tri wedi mynd i aros yn babell, a'i fod o wedi ei siomi gan ei fod wedi gobeithio cael perthynas gyda'r ddynes.
Y ffrind 'wedi gwylltio'
Wrth egluro beth ddigwyddodd wedyn, dywedodd y ffrind ei fod yn cael trafferth cysgu a'i fod wedi clywed sŵn dau berson yn cusanu.
Eglurodd ei fod wedi gwylltio ac wedi galw Emlyn Jones a'r ddynes yn enwau cas.
Doedd o "ddim yn hapus", meddai.
Cododd o'r babell a cherdded oddi yno a mynd i gysgu yn ei gerbyd pick-up.
Mae'n dweud na aeth y ddynes ar ei ôl, ond cadarnhaodd ei bod hi wedi ceisio ei ffonio, ac nad oedd ef eisiau siarad gyda hi am ei fod "wedi gwylltio".
Y bore wedyn fe yrrodd y ffrind adref, gydag Emlyn yn gwmni. Wnaeth y ddau ddim siarad, meddai.
Aeth y ffrind yn ôl i'r Eisteddfod yn hwyrach yn yr wythnos. Gwelodd y ddynes o bell ym Maes B, ond wnaethon nhw ddim siarad.
Wrth gael ei groesholi fe nododd Sion ap Mihangel bod ambell ffaith yn natganiad gwreiddiol y ffrind yn wahanol i'r hyn a ddywedodd yn y llys.
Mae'r achos yn parhau.