Cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad dair blynedd ar ôl dechrau chwarae bowls

Dechreuod Steffan James chwarae bowls yn 2023
- Cyhoeddwyd
Dair blynedd yn ôl doedd Steffan James erioed wedi chwarae bowls.
Ond mewn ychydig ddyddiau mi fydd yn cynrhychioli Cymru yn y gamp yng Ngemau'r Gymanwlad.
Mae'n teithio i Glasgow yn llawn hyder ar ôl ennill medal aur ym Mhencampwriaethau Ewrop.
Mae gan Steffan nam ar ei olwg a bydd yn cystadlu yn y parafowlio i barau cymysg gyda Julie Thomas.
Steffan James yn gobeithio ennill medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad
"Mi oedd yn rhywbeth wnaeth ddechrau effeithio arnai pan yn 11 neu 12 mlwydd oed," esboniodd Steffan.
"Mae'n gyflwr o'r enw stargardt sy'n effeithio ar ganol y llygaid. Mae'n effeithio ar bethau fel darllen - pethau sy'n dibynnu ar ddefnyddio y rhan yna o'r llygaid.
"Ges i'r diagnosis wedyn pan o'n i'n 14. Dwi wedi llwyddo i fynd ati i fyw bywyd arferol.
"Dwi'n ffodus fy mod wedi cael lot o gymorth gan fy nheulu a ffrindiau ac maen nhw wedi fy helpu i fyw gyda'r cyflwr.
"Dwi'n berson positif - mae gen i fywyd gwych. Gwraig, plant, swydd, teulu a ffrindiau. Does gen i ddim byd i gwyno amdano."
Dechrau
Mae chwaraeon yn rhywbeth sydd wedi chwarae rhan fawr ym mywyd Steffan erioed.
Mae o wedi chwarae rygbi a phêl-droed ac hefyd wedi gwneud gymnasteg a rhedeg mewn rasys traws gwlad.
Ond doedd chwarae bowls ddim yn rhywbeth oedd wedi croesi ei feddwl tan 2023.
Roedd yn gweithio yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman ar y pryd a dyna sut y dechreuodd popeth.
"Mi oedd 'na ddigwyddiad i staff sy'n gweithio i Gyngor Sir Gâr yng nghlwb bowlio Rhydaman.
"O'n i methu gweld y jack (y belen fach) oherwydd fy llygaid i, ond ges i help gan ddyn o'r enw Chris Daniels.
"Nath e roi cwpl o tips i fi, nes i bigo nhw lan yn eithaf clou ac o fewn mis neu ddau ges i fy nghap cyntaf dros Gymru.
"Fi'n rili ffodus sut daeth yr holl beth ambiti. Mae cynrhychioli Cymru yn y bowls yn un o uchafbwyntiau fy mywyd hyd yn hyn."

Mae Steffan yn un o wyth sydd wedi ei enwi yn nhîm bowls Cymru i fynd i Glasgow
Mae Steffan yn barod wedi profi llwyddiant yn ystod ei yrfa fer yn y byd bowls.
Flwyddyn a hanner ar ôl dechrau chwarae fe enillodd fedal aur fel rhan o dîm Cymru ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Yr Alban yn 2024.
Ei bartner yn y gystadleuaeth honno oedd Julie Thomas o Bort Talbot a bydd y ddau'n chwarae efo'i gilydd yn Glasgow hefyd.
"I allu ennill beth fi 'di ennill mor belled a chael fy newis i fynd lan i'r Gemau ma' fe'n meddwl lot fawr i fi.
"Mae bach yn crazy fy mod i 'mond wedi bod yn chwarae ers ychydig dros dair blynedd.
"Fi moyn gwneud pawb yn prowd gartref. Fi'n gobeithio gorffen ar y podiwm ac ennill yr aur.
"Mae realiti'r peth yn dechrau bwrw gartref nawr. Mae'r paratoadau yn mynd yn fwy intense. Dwi bron â bod yn barod."

Anwen Butten yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022
Er mai dyma fydd y tro cyntaf i Steffan fod yng Ngemau'r Gymanwlad, mi fydd ganddo ddigon o brofiad o'i amgylch.
Rheolwr y tîm bowls yw Anwen Butten, rhywun sydd wedi cystadlu yn y Gemau ar chwe achlysur gan ennill dwy fedal efydd.
Anwen hefyd oedd capten Tîm Cymru yn Birmingham yn 2022, ac mae hi'n dawel hyderus y bydd 'na fedalau yn cael eu hennill yn y bowls yn Glasgow.
"Mae Steffan wedi rhoi y gwaith caled i fewn," meddai Anwen.
"Mae e wedi cael blas o gael llwyddiant gyda Chymru ym Mhencampwriaethau Ewrop, a mae hynny'n bwysig iawn. Mae e moyn ennill eto.
"Mae e'n chwarae gyda Julie Thomas sydd wedi ennill medal yng Ngemau'r Gymanwlad o'r blaen, a dwi'n siŵr y bydd y ddau gyda'i gilydd yn gwneud yn dda iawn.
"Fi'n gobeithio y bydd Steffan yn cael Gemau llwyddiannus achos mae e'n haeddu fe."