Gollwng carthion am 800,000 o oriau yn 'ddarlun gwirioneddol ofnadwy'

Peipen yn gollwng carthion i afonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd carthion eu gollwng i afonydd, llynnoedd a'r môr o amgylch Cymru am dros 800,000 o oriau y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Fe gafodd carthion eu gollwng i afonydd, llynnoedd a'r môr o amgylch Cymru am dros 800,000 o oriau y llynedd, yn ôl ffigyrau newydd.

Dywed yr elusen amgylcheddol Surfers Against Sewage, sydd wedi dadansoddi data gan gwmnïau dŵr Cymru, bod dros 100,000 o achosion o ollwng carthion yn ystod 2025.

Mae'r ffigyrau ychydig yn is nag yn 2024, pan gofnodwyd dros 970,000 o oriau o ollyngiadau. Un o'r rhesymau dros hynny, medd yr elusen, oedd tywydd sych haf 2025, ond mae hefyd yn dweud bod tanfuddsoddi a diffyg gorfodaeth yn dal yn broblem.

Mae'r ffigyrau'n poeni Richard Thomas, sy'n syrffio'n aml, yn "fawr iawn" ac mae wedi bod yn yr ysbyty yn y gorffennol ar ôl "llyncu dŵr brwnt".

Nid yw'r ffigyrau yn syndod yn ôl y cynghorydd afonydd Oisin Lowe-Sellars, gan ddweud bod angen mwy o graffu ar y gollyngiadau ac edrych ar bob achos unigol.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod wedi cryfhau rheolaeth trwy fonitro mwy a thynhau canllawiau.

Dywed Dŵr Cymru eu bod yn buddsoddi'r swm uchaf erioed, £2.5 biliwn dros y bedair blynedd nesaf.

Mae cwmni Hafren Dyfrdwy wedi cael cais am ymateb.

Oisin Lowe-SellarsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen craffu "ar bob discharge i weld yn union be' sy' wedi digwydd", meddai Oisin Lowe-Sellars

Yn eu hasesiad blynyddol, dywedodd Surfers Against Sewage eu bod wedi derbyn 992 o adroddiadau o salwch yng Nghymru ers 2019, a bod 215 o'r rheiny yn 2025.

O ganlyniad i'r achosion hyn, medd y grŵp, cafodd gwerth dros 2,200 o ddyddiau gwaith ei ollwng.

Dywed yr elusen bod carthion wedi cyrraedd dyfroedd ymdrochi dynodedig Cymru am gyfanswm o 35,669 o oriau yn ystod y flwyddyn dan sylw.

Yn achos un o'r dyfroedd hyn, Llyn Padarn, yn Llanberis yng Ngwynedd, roedd yna 1,614 o oriau o ollyngiadau, er i ansawdd y dŵr gael dynodiad Rhagorol.

Mae'r rheolau'n caniatáu gollyngiad cyfyngedig o garthion yn ystod cyfnodau o law gormodol, ond mae'n bryder ymhlith grwpiau amgylcheddol bod lefelau'n bygwth bywyd gwyllt ac yn peryglu iechyd nofwyr.

'Dwi ddim yn synnu'

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Iau dywedodd Oisin Lowe-Sellars, cynghorydd afonydd sy'n gweithio yn y sector ers blynyddoedd, nad oedd y ffigyrau yn syndod iddo.

"I fod yn onest dwi ddim yn synnu," meddai, "dwi'n gweld flwyddyn i flwyddyn - carthion yn cael eu rhyddhau.

"Flwyddyn yma - o sbïo ar lefydd fel Llanberis, mae'r ffigwr wedi cynyddu.

"Fel arfer 'dan i'n sbïo ar ychydig dros 1,000 o oriau bob blwyddyn, ond mae hwnna fwy fel 1,600 [o oriau] felly mae really wedi cynyddu."

Dywedodd Mr Lowe-Sellars nad ydy'r adroddiad yn dangos bod "angen gweld mwy o wybodaeth am be' mae'r data yn dangos i ni".

"Ti'n gallu cael discharges gwahanol, ti'n gallu cael permitteddischarges - os ydyn ni wedi cael lot o law."

Ond nid ydyn ni'n gwybod os ydy'r ffigyrau diweddaraf yn "unpermitted dicharges", meddai Mr Lowe-Sellars, gan roi rhyddhau carthion mewn cyfnod o sychder fel enghraifft.

Mae effaith y mathau hynny o ollyngiadau yn wahanol i'w gilydd, yn ôl Mr Lowe-Sellars.

Mae angen craffu "ar bob discharge i weld yn union be' sy' wedi digwydd", meddai, gan ychwanegu bod "angen newid".

Richard ThomasFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Dyw e' ddim digon da," yn ôl Richard Thomas

Un arall a fu'n siarad ar Dros Frecwast oedd Richard Thomas o Langrannog, sy'n gweithio yn y byd amgylcheddol ac yn syrffio'n aml.

"Dwi'n poeni fi'n fawr iawn. Ma' syrffwyr ac unrhyw un sy'n defnyddio'r dŵr yn ymwybodol o'r problemau 'fo carffosiaeth a safonau dŵr ers blynyddoedd maith.

"Dwi 'di bod yn syrffio ers 30 mlynedd a ma'r broblem garffosiaeth 'di bod erioed.

"De' ni yn ffodus bo' ganddon ni apps a phethau fel 'na dyddiau yma, sy'n dangos safonau dŵr a ble mae problemau'n digwydd. Ond dyw e' ddim digon da."

Esboniodd Mr Thomas ei fod wedi bod yn sâl yn y gorffennol o achos dŵr a bod "pawb sy'n defnyddio'r dŵr yn gyson wedi clywed straeon".

"Pan o'n i'n y chweched [dosbarth], o'n i 'di llyncu dŵr brwnt ac wedyn wedi bennu lan yn 'sbyty am gyfnod oherwydd y dŵr.

"De' ni'n clywed straeon yn gyson am bobl yn cael problemau fel rhyw fath o ear infection, pob math o salwch gwahanol," ychwanegodd Mr Thomas.

'Cymryd ein cyfrifoldeb o ddifri'

"Mae 100,000 o ollyngiadau carthion i ddyfroedd Cymru yn 2025 yn gyfystyr â gollyngiad bob pum munud, sydd ynddo'i hun yn ystadegyn brawychus," dywedodd Giles Bristow, prif weithredwr Surfers Against Sewage.

"Ond roedd yna 90 o ddyfroedd ymdrochi hefyd - 90 o lefydd ble mae'r awdurdodau'n dweud eu bod yn llefydd da i nofio, syrffio neu chwarae - ond maen nhw wedi eu heffeithio gan dros 4,000 o oriau o lygredd carthion.

"Mae'n ddarlun gwirioneddol ofnadwy o danfuddsoddi parhaol a diffyg gorfodaeth gan awdurdod rheoleiddio Cymru, CNC, i sicrhau nad yw hyn yn digwydd.

"Mae yna risg i fywydau ac iechyd pobl pan maen nhw'n mynd i fwynhau'r llefydd rhyfeddol yma."

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru eu bod yn "gwybod gymaint o bwys yw afonydd, traethau a dyfroedd ymdrochi Cymru i bobl, ac yn deall y pryderon ynghylch gollyngiadau".

"Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i warchod y dyfroedd yma o ddifri ac yn cydnabod bod angen i ni wella.

"Dyna pam rydym yn buddsoddi, rhwng 2025 a 2030, £2.5 biliwn, sy'n record, mewn gwelliannau amgylcheddol, gan gynnwys £889 miliwn ar orlifiadau storm. Yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, rydym yn blaenoriaethu'r gorlifiadau sy'n achosi'r niwed amgylcheddol mwyaf."

Mae Hafren Dyfrdwy wedi cael cais am ymateb.

Dywedodd llefarydd ar ran CNC: "Mae gorlifiadau storm ac achosion o lygredd yn parhau i effeithio ar amgylchedd dŵr Cymru.

"Rydym wedi cryfhau ein dull rheoleiddio yn y blynyddoedd diweddar trwy ganllawiau tynnach, mwy o fonitro ac arolygu, mwy o graffu ar berfformiad amgylcheddol, a thrwy gymryd camau gorfodaeth yn achos methu cwrdd â'r safonau.

"Rhaid i gwmnïau dŵr sicrhau gwelliannau cyson o ran perfformiad amgylcheddol.

"Rydym hefyd yn goruchwylio rhaglenni sylweddol o fuddsoddiadau amgylcheddol gan gwmnïau dŵr ar draws Cymru. Mae'n bwysig bod y buddsoddiad yma'n sicrhau gwelliannau o ran ansawdd dŵr ac yn lleihau effaith gorlifiadau storm."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.