Ehangu gwasanaeth heddlu i atal pobl ifanc rhag mynd i 'fyd tywyll iawn'

Mae angen "addysgu" pobl ifanc sut i drin cyfoedion a phobl yn y gymdeithas meddai Dafydd Llywelyn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymestyn gwasanaeth sy'n ceisio atal troseddu ymhlith pobl ifanc i'r chweched dosbarth a cholegau addysg bellach.
Fe fydd yna swyddog penodol ymhob un o'r pedwar coleg chweched dosbarth yn ardal y llu er mwyn ceisio lleihau troseddu ymhlith y bobl ifanc.
Mae'r llu wedi penderfynu ariannu'r gwasanaeth estynedig yn bennaf eu hunain, ar ôl i'r arian oedd yn dod o lywodraeth Cymru gael ei dorri ddwy flynedd yn ôl.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, bod ymosodiadau difrifol ar athrawon mewn dwy ysgol uwchradd yn ardal y llu wedi "cael effaith ac ysgogi ni efallai i ailedrych ar y gwasanaeth" er mwyn buddsoddi yn y maes.
Cafodd dwy athrawes a disgybl eu trywanu gan ferch 13 oed yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill 2024, ac fe gafodd athrawes ei thrywanu gan fachgen 16 oed yn Ysgol Aberdaugleddau ym mis Chwefror eleni.
Mae'r llu eisoes yn ariannu gwasanaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ond fe fydd hynny yn cael ei ymestyn nawr i addysg bellach.
Clywodd y lansiad ym mhencadlys yr heddlu yng Nghaerfyrddin, fod y llu wedi adnabod 95 o blant yn Sir Gaerfyrddin oedd "angen ymyrraeth" a bod yna 117 angen cefnogaeth yn Sir Benfro, ynghyd â dros 60 yng Ngheredigion.
Yn ôl Mr Llywelyn, mae angen "addysgu" pobl ifanc am sut maen nhw yn trin cyfoedion a phobl yn y gymdeithas ac mae'r "we yn effeithio ar bobl ifanc" a bod "gwaith i wneud er mwyn diogelu pobl ifanc yn y maes yma".
"Bwriad pwrpasol y buddsoddiad yw atal pobl ifanc rhag mynd mewn i'r system gyfiawnder yn ardal Dyfed-Powys a'r niwed sydd yn cael ei achosi pan mae pobl yn mynd i drafferth.
"Fe fydd swyddogion yn gweithio yn bennaf yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd, ac yn y colegau fe fydd gyda ni staff sydd yn cydweithio gyda swyddogion diogelwch y colegau a chydweithio gyda thimau plismona bro lleol. Mae'r cyswllt hynny yn hynod o bwysig ar gyfer y gwaith atal trosedd."

Mae Dewi a Betsan yn dweud eu bod yn gweld llawer o'u ffrindiau'n "troi at gyffuriau" a "thorri'r gyfraith"
Roedd nifer o bobl ifanc yn y lansiad yng Nghaerfyrddin. Dywedodd Dewi, sydd yn 15 oed ac o Ysgol Bro Teifi, fod swyddogion yr heddlu eisoes wedi rhoi cyngor i ddisgyblion yn yr ysgol ar bynciau oedd yn peri pryder.
"Mae un cwnstabl yn dod mewn aton ni falle dwywaith bob blwyddyn a ni'n sôn am bynciau fel secstio, cyffuriau ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Fi'n credu bod e'n fuddiol iawn i'r disgyblion."
Mae Betsan sydd yn 17 oed, ac o Ysgol Bro Hyddgen, yn cefnogi ymestyn y gwasanaeth i'r chweched dosbarth am fod "plant yn troi at dorri'r gyfraith."
"Does ganddyn nhw ddim byd arall i wneud. Dw i yn meddwl bod e'n bwysig iawn i stopio plant rhag torri'r gyfraith.
"Dw i wedi gweld lot o ffrindiau fi yn troi at gyffuriau ac mae wedi bod yn anodd i weld. Dw i ddim yn credu bod nhw'n gwybod pwy mor beryglus ydy o."

"Mae llawer o gamwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol," meddai Bethan James
Yn ôl rheolwr plant a phobl ifanc Heddlu Dyfed-Powys, Bethan James maen nhw "yn yr ysgolion yn barod ond y gap i ni oedd y colegau".
"Ni eisiau bod yn flaenllaw yn rhoi gwybodaeth gyfredol a chywir i blant a phobl ifanc. Mae llawer o gamwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae'n ddyletswydd i ni roi'r gwybodaeth gywir a bod pobl ifanc yn gwybod ble i ddod pan mae angen help a chefnogaeth.
"Yn amlwg, mae cyffuriau yn broblem. Mae vapes ac mae alcohol yn parhau yn broblem yng nghefn gwlad Cymru. Mae'n bwysig bod nhw'n cael y wybodaeth gywir er mwyn deall beth sydd yn drosedd.
"Mae trais yn erbyn menywod yn rhywbeth sydd yn stori ar y cyfryngau cymdeithasol yn feunyddiol. Mae'r plant yn gweld e ac eisiau trafod."

Roedd llawer o bobl ifanc yn bresennol yn ystod lansiad ymestyn y gwasanaeth
Ychwanegodd bod addysgu dynion ifanc am agweddau iach tuag at fenywod, ac am beryglon misogynedd (misogyny), yn rhan o'r cwricwlwm.
"Mae'n rhywbeth ni'n trafod yn yr ysgolion ac mi fyddwn ni yn y colegau. Y
"Yn fwy na dim, mae'n bwysig cael y sgyrsiau gyda nhw i weld beth maen nhw yn meddwl yw'r broblem," meddai.
"Mae e yn broblem ac mae gymaint o wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol sydd yn gallu tynnu unigolyn bregus mewn i fyd tywyll iawn felly os gallwn ni fod y llais yn hwnna i gyd gobeithio gallwn ni helpu."
Dywedodd mai'r nod oedd ymyrryd yn gynnar cyn bod pobl ifanc yn cael record droseddol.
"I ni, ni'n teimlo bod systemau gyda ni nawr ble ni'n gallu adnabod pethau yn fwy cynnar a chynnig yr ymyrraeth i bobl ifanc cyn ei fod e'n broblem i'n cymunedau."
O ran gweddill lluoedd Cymru dywedodd Heddlu Gwent nad oes ganddyn nhw unrhyw rolau sy'n canolbwyntio'n benodol ar ysgolion ond bod swyddogion Tîm Plismona yn y Gymdogaeth a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn cael eu darparu i ysgolion yn eu hardal - "sy'n golygu bod gan bob ysgol yn ardal Gwent bwynt cyswllt".
Cafodd Heddlu'r De a'r Gogledd gais am sylw hefyd.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel ac ry'n ni wedi darparu £1 miliwn o gyllid eleni i gefnogi rhaglen ymgysylltu rhwng yr heddlu ac ysgolion ar draws pob un o'r ardaloedd heddlu.
"Mae'r rhaglen yn cryfhau'r berthynas rhwng ysgolion, plismona cymdogaeth a chymunedau lleol gyda ffocws ar ddiogelu, niwed ar-lein, ymddygiad, cydlyniant cymunedol ac ymyrraeth gynnar.
"Disgwylir i golegau gael polisïau, gweithdrefnau a hyfforddiant staff cadarn er mwyn nodi ac ymateb i bryderon diogelu, gan weithio'n agos gyda phartneriaid allweddol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.