Dyn wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio cyn-bartner ger Aberystwyth - llys

- Cyhoeddwyd
Mae dyn 24 oed o Geredigion wedi ymddangos gerbron llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio ei gyn-bartner mewn gwrthdrawiad ger Capel Bangor ddydd Mawrth.
Mae Owen Rhys Jones, o Ddol-y-bont ger Aberystwyth, hefyd yn wynebu cyhuddiadau o yrru'n beryglus ac ymddygiad rheolaethol a gorfodol.
Mae'r erlyniad yn honni iddo yrru Ford Fiesta yn fwriadol i bolyn telathrebu tra roedd ei gyn-bartner yn deithiwr yn y car.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe ar 3 Awst.
Cyhuddo dyn o geisio llofruddio wedi gwrthdrawiad ger Aberystwyth
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf
Arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi gwrthdrawiad ger Aberystwyth
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
Clywodd Llys Ynadon Abertawe ddydd Sadwrn fod Owen Rhys Jones wedi'i arestio yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd ar yr A44 nos Fawrth, 30 Mehefin.
Yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron, roedd Jessica McLean yn deithiwr yn y Ford Fiesta pan yrrodd Owen Rhys Jones "y cerbyd yn fwriadol i bolyn telathrebu" ger Capel Bangor.
Dywedodd yr erlynydd, Simone Walsh, fod yr achos yn honni bod Mr Jones wedi dweud wrth Ms McLean fod y ddau ohonyn nhw'n "mynd i farw".
Honnodd yr erlyniad fod y digwyddiad wedi digwydd ar ôl i berthynas y pâr ddod i ben ac oherwydd bod Ms McLean yn bwriadu dychwelyd i'w mamwlad, Seland Newydd.
Dywedodd cyfreithiwr Mr Jones, Katy Hanson, ei fod yn gwadu'r cyhuddiadau'n gryf ac mai damwain oedd y gwrthdrawiad heb unrhyw fwriad i achosi niwed.
Ni wnaeth Jones wneud cais am fechnïaeth ac fe fydd yn cael ei gadw yn y ddalfa tan ei wrandawiad nesaf yn Llys y Goron Abertawe ar 3 Awst.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn ardal Capel Bangor nos Fawrth ac a welodd y gwrthdrawiad, sydd â deunydd dashcam, neu a welodd unrhyw aflonyddwch yn yr ardal cyn 21:00 y noson honno.