Sefydlu Clwb Ffermwyr Ifanc yng Nghaerdydd am y tro cyntaf

- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Ffermwyr Ifanc (CFfI) newydd sbon wedi cael ei sefydlu ac nid yng nghefn gwlad, ond yng nghanol Caerdydd.
Y nod yw cynnig "cymuned fywiog i bobl ifanc o gefndiroedd gwledig" ac unrhyw aelodau newydd "sydd am brofi popeth sydd gan y mudiad i'w gynnig".
Gyda chymaint o aelodau yn symud i fyw yn y brifddinas "yn lle colli aelodau pam ddim rhoi cyfle iddyn nhw barhau ond yng Nghaerdydd?" meddai cadeirydd y clwb, Dafydd James.
Mae'r mudiad yn dathlu 90 mlynedd eleni a sefydlu'r clwb yng Nghaerdydd oedd un o obeithion Prif Weithredwr CFfI Cymru, Mared Rand Jones.

Mae Dafydd James yn edrych ymlaen at weld y clwb yn tyfu dros y flwyddyn nesaf
Cafodd y clwb newydd ei gymeradwyo nos Iau gan bwyllgor gwaith Sir Morgannwg, meddai Mr James, ac mae nawr am fod "yn gyfnod cyffrous iawn".
"Er bod y ddinas yn cynnig cymaint, mae llawer ohonom yn gweld eisiau'r gymuned sydd gennym adref drwy'r Ffermwyr Ifanc," ychwanegodd.
Mae'r mudiad erbyn hyn yn cynnig yr opsiwn i fod yn aelod mewn dwy sir ac felly dechreuodd y syniad ddatblygu.
Ond mae Mr James yn cydnabod y gall gymryd amser i dyfu'r clwb ar y dechrau.
"Mi fydd y flwyddyn gynta'n un i ni gael ein traed oddi tanom ni.
"Mae 'Steddfod y sir yn digwydd ar 26 Medi sy' 'di dod bach yn gloi," meddai "achos ni'n ymwybodol bod wythnos Freshers myfyrwyr Caerdydd pryd 'ny. So ni'n disgwyl grŵp bach i gystadlu gynta' ac wedyn sefydlu'n iawn o fis Hydref ymlaen."

Cafodd y clwb ei gymeradwyo gan bwyllgor gwaith Sir Morgannwg nos Iau
Dywedodd Mared Rand Jones ei bod hi'n "wych gweld pobl ifanc yn cymryd yr awenau ac yn edrych ar ffyrdd newydd o ddod â'r Ffermwyr Ifanc at ei gilydd".
"Mae ein mudiad wedi'i adeiladu ar gymuned, cyfeillgarwch, datblygu sgiliau a rhoi cyfleoedd i bobl ifanc – ac mae'r egwyddorion hynny yr un mor berthnasol yng nghanol Caerdydd ag ydynt mewn cymunedau gwledig ledled Cymru," meddai.
Mae hefyd yn gyffrous y bydd hyn yn "cyflwyno CFfI i bobl sydd efallai heb gael y cyfle i fod yn rhan ohono o'r blaen."
Yn rhan o bwyllgor etholedig y clwb mi fydd y canlynol:
Dafydd James - Cadeirydd
Eben Pierce - Is-Gadeirydd
Cynwal ap Myrddin - Ysgrifennydd
Beth Awel - Ysgrifennydd cofnodion
Fflur Evans - Trysorydd
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.