Carcharu gweithwyr am ddwyn gwerth £1.2m o dun o waith dur TATA

Mae Stewart Jones (chwith) a Thomas Ashford wedi cael eu carcharu am eu rôl yn y cynllwyn
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu ac un arall wedi cael dedfryd wedi'i gohirio ar ôl dwyn ingotau tun gwerth bron i £1.2m o waith dur TATA yn Sir Gaerfyrddin.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y tri dyn - Thomas Ashford, 35, Stewart Jones, 56, a Richard Jones, 29 - yn gweithio i TATA yn Nhrostre, Llanelli fel gwarchodwyr diogelwch a gyrwyr cerbydau forklift.
Ond fe wnaethon nhw gynllwynio gyda Matthew Membury, 32, a fyddai'n gyrru i'r safle cyn llwytho'r ingotau tun i fan a'u gwerthu i fasnachwyr sgrap.
Fe wnaeth Membury wrthod ymddangos yn y llys i gael ei ddedfrydu, a dywedodd y barnwr y byddai ei ddedfryd yn cael ei hychwanegu at yr un y mae eisoes yn ei gwneud ar hyn o bryd am gynnau tân bwriadol - ond nid nes iddo gyflwyno ei hun i'r llys.
'Cynllwyn parhaus a soffistigedig'
Clywodd y llys mai Membury, Ashford a Stewart Jones oedd y prif gynllwynwyr, gyda Richard Jones weithiau'n eu cynorthwyo gyda'r lladradau.
Fe wnaethon nhw rannu'r elw rhyngddynt, yn yr hyn a gafodd ei ddisgrifio fel fel "cynllwyn parhaus a soffistigedig" rhwng Gorffennaf 2023 a Hydref 2024.
Ar sawl achlysur, gyrrodd Membury i'r safle mewn fan wen gan ddefnyddio dogfen adnabod ffug yr oedd wedi'i chael gan Stewart Jones – goruchwyliwr diogelwch y safle.
Clywodd y llys y byddai Stewart Jones yn anfon negeseuon at Membury i roi gwybod iddo pryd fyddai'r safle'n llai prysur, a phryd fyddai'n ddiogel iddo fynd i mewn.
Yna, byddai'r ingotau tun yn cael eu llwytho i'r fan gan Ashford gan ddefnyddio forklift, cyn cael eu gyrru oddi ar y safle gan Membury i'w gwerthu.
Clywodd y llys fod cyfanswm o bron i 50 tunnell o ingotau tun wedi cael eu symud o'r safle yn Nhrostre.

Fe wnaeth Matthew Membury wrthod ymddangos yn y llys i gael ei ddedfrydu
Fe wnaeth Membury dderbyn dros £740,000 mewn taliadau gan wahanol brynwyr metel sgrap, cyn talu ei gyd-gynllwynwyr eraill.
Cadwodd Membury bron i £340,000, gydag Ashford yn cael dros £250,000, tra bod Stewart Jones wedi derbyn dros £80,000 a Richard Jones tua £60,000.
Cafon nhw eu harestio ym mis Hydref 2024 ar ôl cael eu dal yn ceisio gadael y safle gyda swmp o dun, ac fe gafodd tri chleddyf eu canfod yng nghefn fan Membury hefyd.
Dywedodd James Davies, rheolwr y safle yn Nhrostre, ar ran TATA Steel, bod gweithwyr bellach yn gorfod parcio oddi ar y safle a cherdded i mewn, a bod hynny wedi "cael effaith ar ysbryd y staff".

Roedd Membury, sydd ar hyn o bryd dan glo am gynnau tân bwriadol, wedi gwrthod mynychu'r llys ddydd Mawrth, gan arwain at rybudd gan y Barnwr Paul Thomas KC y gallai gael effaith ar hyd ei ddedfryd.
Roedd y pedwar diffynnydd wedi pledio'n euog i gynllwynio i ddwyn, tra bod Membury hefyd wedi pledio'n euog i dri chyhuddiad o fod â chyllell yn ei feddiant.
Cafodd Thomas Ashford a Stewart Jones ddedfrydau o dair blynedd a phedwar mis dan glo.
Cafodd Richard Jones ddedfryd o 20 mis, wedi'i gohirio am ddwy flynedd, ynghyd â 250 awr o waith di-dâl a chyrffyw rhwng 22:00-05:00.
Ychwanegodd y Barnwr Paul Thomas na fyddai'n dedfrydu Matthew Membury nes iddo ymddangos yn y llys.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.