Ymgyrch 'ddewr' Josh Tarling yn y Vuelta a España ar ben

Dywedodd Netcompany Ineos eu bod yn falch iawn o ymdrechion Josh
- Cyhoeddwyd
Mae Josh Tarling wedi tynnu allan o ras feicio y Vuelta a España ar ôl chwe chymal.
Roedd Josh, sy'n 22 oed, wedi penderfynu cystadlu yn y Vuelta - ras dair wythnos sy'n un o dri Grand Tour y byd seiclo ynghyd â'r Tour de France a'r Giro d'Italia - ddyddiau yn unig wedi marwolaeth ei frawd Finlay mewn ras.
Bu farw Finlay Tarling, 19, mewn gwrthdrawiad yn ystod y Volta a Portugal ddydd Gwener, 14 Awst.
Fe orffennodd Josh yn drydydd yng nghymal cyntaf y Vuelta, ond gyda 14 cymal o'r ras yn weddill mae wedi penderfynu dod â'i ymgyrch i ben.
Dywedodd llefarydd ar ran ei dîm, Netcompany Ineos na allen nhw fod yn fwy balch ohono.
"Mae ymdrech ddewr Josh Tarling yn y La Vuelta wedi dod i ben ac mae wedi penderfynu rhoi'r gorau iddi," meddai ei dîm.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl


