Clwb Rygbi Caernarfon yn ennill gwobr Cegin Rygbi'r Flwyddyn

Keith Parry mewn top du a ffedog streipiog yn gwenu tua'r camera tra'n sefyll o flaen y pobty yng nghegin Clwb Rygbi CaernarfonFfynhonnell y llun, Ann Hopcyn
Disgrifiad o’r llun,

Keith Parry yw arweinydd cegin Clwb Rygbi Caernarfon - enillwyr cyntaf wobr newydd Cegin Rygbi'r Flwyddyn y Deyrnas Unedig

  • Cyhoeddwyd

Mae Clwb Rygbi Caernarfon wedi ennill gwobr Cegin Rygbi'r Flwyddyn y Deyrnas Unedig ar ôl trechu cannoedd o glybiau eraill i gyrraedd y brig.

Roedd y panel a luniodd y rhestr fer yn cynnwys cogyddion enwog a sêr rygbi - yn eu plith, Marco Pierre White a Nathan Outlaw.

Ond y cogydd byd-enwog a chyn-chwaraewr rygbi o Ffrainc, Pierre Koffmann, gafodd y bleidlais derfynol.

Dywedodd arweinydd y gegin yng Nghaernarfon, Keith Parry, sy'n 84 oed, fod y newyddion yn "sioc" ond yn "ffantastig" - yn enwedig y cyflenwad blwyddyn o sglodion Koffmann sy'n rhan o'r wobr!

Disgrifiad,

Clwb Rygbi Caernarfon yn ennill gwobr Cegin Rygbi'r Flwyddyn y DU

Mae'r gegin yn brysur iawn ar benwythnosau, gyda'r clwb yn bwydo tua 50 o chwaraewyr ieuenctid ar nos Wener a channoedd o blant a phobl ifanc dros y penwythnos, yn ôl Keith Parry.

"Mae 'na gymaint yn mynd ymlaen yma ar y penwythnos," meddai.

Mae Keith wedi gwirfoddoli gyda'r clwb ers mwy na 50 mlynedd ac mae'n arwain y gegin gyda thîm o wirfoddolwyr.

Keith Parry a rhai o aelodau eraill Clwb Rygbi Caernarfon yn eistedd o amgylch byrddau yn ystod y seremoni wobrwyoFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Keith Parry gyda rhai o aelodau eraill y clwb yn ystod y seremoni wobrwyo

Dywedodd ar raglen Dros Frecwast fod tua 50 o chwaraewyr ieuenctid i'w bwydo ar nos Wener, cyn i'r 'minis' chwarae fore Sul gyda rhyw 130 neu 140 ohonyn nhw'n bresennol.

Ychwanegodd fod tua 130 o chwaraewyr ifanc eraill yn chwarae yn y prynhawn, mewn sesiynau ar gyfer merched y mae'r clwb yn eu galw'n 'fôr ladron'.

Mae'r fwydlen fel arfer yn cynnwys "pitsas, hot dogs a sglodion, jacket potato efo beans a chaws", yn ogystal â phrydau fel "pasta bake, chilli con carne a bolognese."

"Rhywbeth 'da ni'n gallu neud mewn bulk 'de," meddai.

Does neb yn y clwb yn gwybod pwy wnaeth ei enwebu ar gyfer y wobr.

"Doedden ni ddim yn gwybod pwy sy' 'di rhoi ni 'mlaen amdano fo, doedd gynnon ni ddim cliw, so roedd o'n sioc i ni hefyd!"

Keith Parry yn sefyll wrth y ffwrn pitsaFfynhonnell y llun, Ann Hopcyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Keith Parry a'r gwirfoddolwyr eraill yn bwydo cannoedd o chwaraewyr a chefnogwyr bob penwythnos

Dywedodd fod y cynghorydd lleol, Ann Hopcyn yn ei gynorthwyo fwyaf yn y gegin, ond bod llawer o bobl eraill hefyd yn helpu ac yn gwirfoddoli, yn enwedig rhieni ar fore Sul.

"Bob tro 'da ni angen help ma' rhywun yn dod ymlaen, ond fel arfer yr un rhai 'de," meddai.

Dywedodd fod y wobr o sglodion am flwyddyn yn arbennig o werthfawr, gan fod y clwb yn "mynd trwy ryw 15 i 25 o fagiau o sglodion bob penwythnos".

Ar ôl clywed mai dyna rhan o wobr y clwb, ymateb Keith oedd "meddwl agor siop chips!", cyn ychwanegu y byddai'n help enfawr ac yn newyddion "ffantastig".

Mae'r wobr hefyd yn cynnwys offer rygbi gan Rhino Rugby.

Keith Parry ac Ann Hopcyn gyda thystysgrif yn cadarnhau mai'r clwb oedd yr enillwyr yn ystod y noson wobrwyoFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Keith Parry ac Ann Hopcyn yn rhan o'r tîm sy'n bwydo cannoedd o chwaraewyr yn y clwb bob penwythnos

Mae gwaith Keith yng Nghlwb Rygbi Caernarfon yn ymestyn y tu hwnt i'r gegin.

Dywedodd ei fod wedi bod yn stiward yn y clwb am flynyddoedd.

Mae hefyd â hanes hir o farcio'r caeau, ac mae'n dal i "helpu gydag unrhyw beth sydd angen ei wneud".

Dywedodd fod ganddo lawer o atgofion o'r clwb dros y blynyddoedd, a'i fod wedi gweld sawl cenhedlaeth yn tyfu ac yn dod yn rhan o'r gwaith o redeg y clwb.

Hen lun o Keith Parry gydag aelodau adran merched Clwb Rygbi CaernarfonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Keith Parry, ar y dde, wedi bod yn rhan o Glwb Rygbi Caernarfon ers mwy na 50 mlynedd

"Ma' 'na griw da wedi bod yma erioed ac mae hynny'n help mawr," meddai.

"Mae rhai o'r hogia' oedd yn fy helpu i yn yr ysgol ac maen nhw 'wan yn rhedeg y clwb - ni 'di gweld nhw'n tyfu ar hyd y cenedlaethau."

Dywedodd Pierre Koffmann fod "rhedeg cegin rygbi yn 84 oed yn anhygoel", gan ychwanegu bod Keith a Chlwb Rygbi Caernarfon yn enillwyr teilwng.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig